Ydych chi’n adnabod eich hun fel unigolyn LGBTQ+ neu ydych chi’n rheolwr neu’n gyflogwr sy’n ceisio cynyddu eich gwybodaeth er mwyn rhoi cefnogaeth well i’ch aelodau staff yn y maes hwn?

Ymunwch â ni wrth i banel o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe rannu eu gwybodaeth a’u profiadau o fod allan yn y gweithle.

  • Allai bod allan yn y gweithle niweidio eich gyrfa?
  • Ydy dod allan yn y gweithle yn digwydd unwaith yn unig?
  • Oes gennych chi reolaeth gyfan dros fod allan yn y gweithle ai peidio?
  • Pa fath o ymateb y gallaf ei ddisgwyl os byddaf yn penderfynu dod allan?
  • Ydy dod allan yn haws gydag amser?
  • Beth yw’r manteision sydd ynghlwm â bod allan yn y gweithle?

 

Llun o berson yn cropian darn o bapur siâp calon aml-liw. (Pexels | Sharon McCutcheon)

Caiff ein panel ei gadeirio gan Dr Alys Einon-Waller, Athro Cysylltiol Bydwreigiaeth ac Iechyd Atgenhedlu. Mae Alys yn weithredol dros y gymuned LGBTQ+ ac yn gadeirydd Rhwydwaith Staff LBGTQ+ Prifysgol Abertawe.

Mae ein haelodau panel yn cynnwys;

  • David Kerr PhD (2013) Peirianneg Ddeunyddiau. Prif Beiriannwr, Adran Amddiffyn Canada.
  • Nicola Pallett, BSc (2005) Technoleg Gwybodaeth Fusnes, Uwch Reolwr, New Day Ltd.
  • Nathan Buehler, MSc (2016) Rheoli Buddsoddiadau, Dadansoddwr Ariannol, Lockheed Martin.