Gyda chyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe Martin Spray CBE, sy'n gadwraethwr blaenllaw ac yn Gyn-brif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Gwlypdiroedd.

Mae ein bywyd naturiol mewn cyflwr critigol. Mae allyriadau cynyddol, dinistrio byd natur a lefelau treulio anghynaliadwy yn bygwth ein dyfodol. Felly, wrth inni ddechrau dod allan o argyfwng iechyd byd-eang, beth y gallwn ni ei wneud er mwyn creu byd glanach, gwyrddach sy'n gweithio i bawb?

Ymunwch â Martin ar Ddiwrnod Bywyd Gwyllt y Byd i glywed ei feddyliau ynghylch lle mae safbwynt y mudiad amgylcheddol a sut gallwn fodloni'r her o ddiogelu byd iach ar ein cyfer ni ar hyn o bryd, ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Bywgraffiad - Martin Spray

Llun o'r Martin Spray

Graddiodd Martin â gradd mewn Sŵoleg ym 1973, a chafodd ei swydd gyntaf gydag Adran Addysg Bwrdeistref Frenhinol Kingston-Upon-Thames. Ym 1974, symudodd Martin i SERC (Cyngor Ymchwil Gwyddoniaeth a Pheirianneg) lle cafodd wahanol swyddi rheoli, gan gynnwys secondiad byr i Drysorlys Ei Mawrhydi.

Ar ôl pedair blynedd ar ddeg, dechreuodd Martin weithio i WWF UK yn Rheolwr Ardal ar gyfer Llundain a'r De-ddwyrain. Roedd ei rôl yn cynnwys gweithgareddau codi arian a Chysylltiadau Cyhoeddus a gwaith ym maes y cyfryngau, rheoli staff a gwirfoddolwyr a digwyddiadau codi arian mawr ar draws y rhanbarth.

Ar ôl y swydd hon, symudodd Martin i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Berkshire, Swydd Buckingham a Swydd Rydychen (BBOWT) ym 1991 i fod yn Brif Weithredwr. Ef oedd y Prif Swyddog Gweithredol cyntaf i gael ei benodi i ddatblygu'r sefydliad i fod yn o'r ymddiriedolaethau bywyd gwyllt mwyaf a mwyaf dylanwadol yn y DU. Ar ôl ei lwyddiant yn BBOWT, ymunodd Martin â Chymdeithas Frenhinol yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt yn 2003 i fod yn Brif Gyfarwyddwr am flwyddyn, wrth gael secondiad ar sail ran-amser a pharhau i reoli BBOWT, er mwyn rheoli a chyfarwyddo sefydliad ymbarél 47 Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt annibynnol y DU, gan fynd i'r afael yn benodol â materion rheoli ac ariannol mawr a gwella cyfathrebu ac atebolrwydd.

Yn 2004, dechreuodd Martin swydd Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Gwlypdiroedd (WWT). Oherwydd ei waith, dyfarnwyd CBE i Martin am Wasanaethau i Gadwraeth Byd Natur a gradd Doethur honoris causa o Brifysgol Roehampton.