Mae aduniad blynyddol cyn-fyfyrwyr Abertawe yn ôl! Dewch i ailgysylltu â'ch hen gyd-fyfyrwyr a ffrindiau, ac ail-fyw eich diwrnodau fel myfyriwr mewn penwythnos llawn hwyl yn ôl ar y campws. Eleni, rydym wedi cynnwys yr opsiwn i fynd i’n Dawns Chwedlonol yr Haf!
Opsiynau Tocynnau
Mae gennym ddau opsiwn tocynnau i chi ddewis o’u plith:
- Cynnwys Dawns yr Haf – pris y tocyn yn cynnwys mynd i Ddawns yr Haf - £100
- Eithrio Dawns yr Haf – nid yw pris y tocyn yn cynnwys mynd i Ddawns yr Haf - £60
> Archebwch eich tocynnau nawr gan ddefnyddio'r ffurflen isod.
Cynhelir Hanner Marathon Abertawe ddydd Sadwrn 11 Mehefin hefyd ac mae gennym nifer o lefydd AM DDIM a rhai am bris gostyngol i gyn-fyfyrwyr! Mae'r Brifysgol yn falch o fod yn Cymryd Camau Breision dros Iechyd Meddwl yng Nghymuned Abertawe a'r tu hwnt. Felly os ydych chi'n hoff o redeg a hoffech godi arian at achos da, cysylltwch â giving@abertawe.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Mae gennym benwythnos llawn gweithgareddau i chi, ac mae croeso i chi wneud cynifer ohonynt neu gyn lleied ag y dymunwch!
Diogelu Data Datganiad Cryno Rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelu'ch gwybodaeth bersonol a bod yn dryloyw ynghylch y wybodaeth rydyn ni'n ei chadw amdanoch chi. Darllenwch ein datganiad diogelu data llawn yn achos cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr yn: https://www.swansea.ac.uk/cy/cyn-fyfyrwyr/cysylltwch-a-swyddfar-cynfyfyrwyr/polisi-preifatrwydd/