Fe'ch gwahoddir i Ddigwyddiad Arddangos Ymchwil Prifysgol Abertawe: There's Something in the Seaweed, gyda Diodydd a Byrbrydau yng nghanol Llundain!

Dyddiad: 14/09/2023
Amser: 6pm
Lleoliad: Uncommon Borough

Fe'ch gwahoddir i ddigwyddiad Arddangos Ymchwil Prifysgol Abertawe yng nghanol Llundain gyda diodydd a byrbrydau! Byddwn yn eich helpu i hel atgofion am y traethau drwy ddod â rhai o'n hacademyddion ysbrydoledig i ddweud wrthych pam mae gwymon yn hollbwysig i'w hymchwil.

O drawsnewid bywydau pobl  mae creithiau yn effeithio arnynt, i ddal carbon a chreu gleiniau amlbwrpas sy'n storio gwres ar gyfer adnoddau ynni cynaliadwy a fforddiadwy, mae gennym rywbeth o ddiddordeb i chi.

Abertawe yn Llundain 2023

Cofrestrwch nawr

Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, byddwch chi’n dewis derbyn gohebiaeth gan y Brifysgol. Os nad ydych chi am dderbyn rhagor o ohebiaeth gan y Brifysgol, e-bostiwch alumni@abertawe.ac.uk  a byddwn yn diweddaru’n cofnodion yn briodol.

Ymddiheurwn am ddiffyg cyfieithu Cymraeg. Nid yw'r dechnoleg a ddefnyddir yn caniatáu hyn. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad yn y Gymraeg, e-bostiwch giving@abertawe.ac.uk.

Siaradwyr

Dr Emily Preedy (PhD, MSc, BSc (Anrh.))

Microalgâu mawreddog a choedwigoedd y dyfodol – microalgâu yw cefnder iau gwymon. Maent yn meddu ar yr un priodoleddau gwych â macroalgâu ond gellir eu tyfu mewn amgylchedd a reolir. Mae microalgâu’n tyfu yn yr un ffordd â phlanhigion ond mewn amgylchedd hylifol, gan olygu eu bod yn defnyddio goleuni'r haul a charbon deuocsid mewn adwaith cemegol o'r enw ffotosynthesis. Mae prosiect RICE (Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol) wedi manteisio ar y ffenomen naturiol hon ac wedi gweithio gyda Vale Europe Ltd, cwmni diwydiannol lleol yng Nghlydach, i leihau ei ôl troed carbon ac ailgylchu ei ddŵr gwastraff. Yn y ffordd hon, adeiladwyd coedwig sy'n dal 15,000l o fiomas y gellir ei ddefnyddio at nifer o ddibenion, o nwyddau fferyllol i fwyd anifeiliaid sydd hefyd yn lleihau swm y methan (nwy tŷ gwydr niweidiol arall) y mae gwartheg yn ei gynhyrchu, gan hyrwyddo economi gylchol.

Dr Jon Elvins, Uwch-gymrawd Trosglwyddo Technoleg yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC.

Rydym yn defnyddio alginad, sy'n deillio o wymon, fel cyfrwng rhwymol mewn gleiniau sy'n gallu dal, storio a rhyddhau gwres. Nod terfynol y prosiect yw gallu casglu gwres o ffynonellau gwres gwastraff diwydiannol, ei gludo i leoliad arall, a'i ddefnyddio i wresogi gofod. Defnyddir yr ‘ynni am ddim’ hwn i wrthbwyso'r defnydd o danwyddau ffosil, gan leihau'r ôl troed carbon. Yn y sgwrs hon, byddwn yn trafod sut mae'r gleiniau hyn yn gweithio, rhai enghreifftiau ohonynt sy’n destun arbrofion a photensial y dechnoleg.

Octavian Parkes, Rheolwr Rhaglen Ymchwil ar gyfer y Scar Free Foundation a Rhaglen Ymchwil i Feddygaeth Adluniol ac Aildyfu Prifysgol Abertawe

Mae llawdriniaeth i gywiro namau wynebol yn aml yn defnyddio cartilag a dynnwyd o rywle arall ar gorff y claf, ond mae cymhlethdodau'n gysylltiedig â'r broses hon. Mae angen sgiliau technegol uwch ar y llawfeddyg i wneud y mwyaf o'r cartilag cyfyngedig sydd ar gael, a gall tynnu'r cartilag achosi poen, creithiau a phroblemau tymor hwy i'r claf. Mae'r prosiect 3D Bioface, dan arweiniad yr Athro Iain Whitaker, yn ymchwilio i ddatblygiad 'bio-inc' naturiol newydd sy'n cefnogi celloedd dynol. Y nod yw defnyddio'r bio-inc hwn i argraffu cartilag newydd personol ar ffurf 3D sy'n cyfateb i'r dim i nam wynebol claf, gan gael gwared ar y rhan fwyaf o'r cymhlethdodau llawfeddygol.

Dr Nicole Esteban, Athro Cyswllt Bioleg y Môr

Mae ein hamgylchedd morol yn newid yn gyflym oherwydd gweithgarwch dynol a newid yn yr hinsawdd. Tan yn ddiweddar, roedd ein gallu i ddeall effeithiau ar fioamrywiaeth a rhywogaethau wedi'i atal gan dechnoleg, ond mae dulliau olrhain anifeiliaid bellach yn ddatblygedig iawn, gan ddatgelu nodweddion ac ymddygiad mewn anifeiliaid a'u cynefinoedd. I ddeall mwy am brif bwyntiau cadwraeth i grwbanod y môr, mae tagiau lloerenni wedi helpu i olrhain symudiadau o'u traethau nythu ers y 1980au cynnar. Felly sut gall olrhain anifeiliaid helpu i amddiffyn rhywogaethau morol? Bydd Nicola yn amlygu sut y gellir defnyddio data olrhain anifeiliaid i gynyddu ein dealltwriaeth am symudiadau ar raddfeydd bach a mawr, dysgu am gynefinoedd cysylltiedig a llywio gwaith rheoli a pholisi cadwraeth forol.