Datblygu deunyddiau a chynnyrch newydd

Deunyddiau sy’n dal, yn storio ac yn rhyddhau ynni

Mae Tata Steel wedi gweithio gyda staff a graddedigion Prifysgol Abertawe o Ganolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC er mwyn datblygu’r genhedlaeth nesaf o gaenau a chladinau dur ar gyfer adeiladau y byddant yn dal, yn storio ac yn rhyddhau ynni solar.

Ar y cyd, maent wedi datblygu’r adeiladau dangosol sef yr Ystafell Ddosbarth a’r Swyddfa Actif sy’n integreiddio’r technolegau solar yn un system sy’n eu galluog nhw i gynhyrchu a storio ynni – gwres a thrydan – o’r haul a’i ryddhau ar gais (yn ystod oriau brig neu pan nad oes haul).

SPECIFIC

Rhoi'r technolegau ar waith

Gan ddefnyddio’r technolegau ynni cynaliadwy a ddatblygwyd gan SPECIFIC, mae’r prosiect SUNRISE yn adeiladu cyfres o adeiladau ledled India sy’n cynnwys systemau ynni cynaliadwy integredig.

Wedi’i fodelu ar yr ystafell ddosbarth actif a’r fenter ‘adeiladau yn orsafoedd pŵer’ ym Mhrifysgol Abertawe, mae’r prosiect Sunrise yn defnyddio cladin dur tyllog gan Tata Steel, wedi’i addasu at anghenion a heriau amgylchedd newydd, er mwyn cynhyrchu ynni gwres solar.

Hefyd mae llwyddiant dangosyddion cynnar yr Adeilad Actif wedi arwain at sefydlu prosiect y Ganolfan Adeiladu Actif. 

DYSGWCH RAGOR AM YR YMCHWIL

PROSIECTAU A CHANOLFANNAU SY’N BARTNERIAID