Llongyfarchiadau mawr i'n myfyriwr ôl-raddedig yn yr Ysgol Reolaeth, Dafydd Cotterell, am gael ei ddewis i ennill gwobr Ymchwil Ôl-raddedig James Callaghan.

Mae Gwobr Ymchwil James Callaghan yn cydnabod cyflawniad a chynnydd eithriadol ein myfyrwyr ôl-raddedig presennol. Roedd dwy wobr ar gael, un am thesis PhD ardderchog a'r llall am thesis Meistr Ymchwil ardderchog.

Dywedodd Dafydd,

"Rwy'n hynod falch o ennill Gwobr Ymchwil James Callaghan. Ar ôl cwblhau fy ngradd israddedig yn yr Ysgol Reolaeth yn ystod 2020, penderfynais wireddu fy uchelgais hirsefydledig, sef cychwyn cynllun PhD. Bryd hynny, roeddem ar anterth y pandemig. Roeddwn i'n teimlo y byddai ymroi fy PhD i werthuso profiadau busnesau manwerthu yn ystod y pandemig yn gwneud astudiaeth ystyrlon a fyddai’n cael effaith fawr. Rwy'n hapus bod fy ngwaith wedi cael ei gydnabod fel hyn."

Cynhelir cyflwyniad ffurfiol o'r gwobrau yn 2023, yng Ngŵyl flynyddol PGR ym mis Mai.

Llongyfarchiadau mawr i Dafydd!

Rhannu'r stori