Cyrhaeddodd Dr Samantha Burvill (Athro Cyswllt), Beth Cummings (Uwch Ddarlithydd) a Dr Robert Bowen (Darlithydd) y rownd derfynol yng Nghynhadledd Ryngwladol Busnesau Bach ac Entrepreneuriaeth (ISBE) 2022 ar gyfer y papur gorau yn y trac “Rhwydweithiau, Arloesedd a Pholisi”, a chawsant lwyddiant wrth ennill “Gwobr Alistair Anderson am Gyhoeddiad ym maes Entrepreneuriaeth a Datblygu Rhanbarthol gan Ymchwilydd ar Ddechrau Gyrfa”.

Cyrhaeddodd Dr Samantha Burvill (Athro Cyswllt), Beth Cummings (Uwch Ddarlithydd) a Dr Robert Bowen (Darlithydd) y rownd derfynol yng Nghynhadledd Ryngwladol Busnesau Bach ac Entrepreneuriaeth (ISBE) 2022 ar gyfer y papur gorau yn y trac “Rhwydweithiau, Arloesedd a Pholisi”, a chawsant lwyddiant wrth ennill “Gwobr Alistair Anderson am Gyhoeddiad ym maes Entrepreneuriaeth a Datblygu Rhanbarthol gan Ymchwilydd ar Ddechrau Gyrfa”. Dyfarnwyd y ddwy wobr am eu papur o’r enw “From Entrepreneurial Ecosystems (EE) to Purposeful Ecosystems (PE) in Wales in a Post Covid Era”. Bydd y papur hwn yn cael ei gyflwyno i’w gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.

Mae’r papur yn beirniadu’r llenyddiaeth ar ecosystemau entrepreneuraidd ac yn cyflwyno canlyniadau ymchwil sylfaenol a wnaed ar gwmni buddiannau cymunedol 4theRegion. Mae’r papur yn rhoi sylw i’r symudiad o fodel ecosystem sy’n canolbwyntio ar dwf uchel tuag at fodel ecosystem pwrpasol sy’n cydbwyso diben ac elw. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ystyried y pandemig covid-19 diweddar a’r ffocws yng Nghymru ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Hefyd, mae’r ymchwilwyr wedi ennill gwobr papur y flwyddyn 2022 gan e-gylchgrawn Regions 2022 am eu papur o’r enw “A well-being network approach to covid-19 recovery: the approach of 4theRegion”, ac yn ogystal, y wobr yng nghynhadledd ISBE 2021 am y papur gorau yn y trac “Rhwydweithiau, Arloesedd a Pholisi”.

Fel rhan o’r prosiect ymchwil ehangach, cynhaliwyd cyfweliadau â Phrifysgol Lund yn Sweden (Grŵp CIRCLE) yn ogystal ag aelodau o’r Sefydliad Arloesedd Menter (EI2) yn Sefydliad Technoleg Georgia. Yn ddiweddar, croesawodd Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe ymweliad gan David Bridges, is-lywydd EI2 yn Sefydliad Technoleg Georgia. Mae’r prosiect ymchwil bellach wedi esblygu i fan lle mae astudiaeth achos fanylach wedi’i chynnal o ecosystem De Orllewin Cymru yn ogystal ag ecosystem Georgia/Atlanta. Nod y gwaith ymchwil hwn yn y pen draw yw dylanwadu ar lywio arferion a pholisi.

Rhannu'r stori