Croeso i Gyfrifeg a Chyllid

Byddwch yn raddedig medrus iawn sy'n barod am yrfa pan fyddwch yn astudio unrhyw un o'n rhaglenni aml-achrededig.

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol ein myfyrwyr gyda chyfleusterau addysgu a mannau astudio o'r radd flaenaf, yn ogystal â meddalwedd cyfrifeg a chyllid arbenigol i roi mantais gystadleuol ichi pan fyddwch yn graddio o Brifysgol Abertawe. 

Wrth ochr timau ymroddedig sy'n darparu cymorth cyflogadwyedd, academaidd a phersonol trwy gydol eich gradd, mae ein cyrsiau wedi'u strwythuro i ganiatáu hyblygrwydd fel y gallwch deilwra eich modiwlau, ac yn y pen draw eich gradd, i gyd-fynd â'ch dyheadau gyrfa sy'n datblygu.