Mae Dr Katy Vaughan sy'n Ddarlithydd y Gyfraith ac yn aelod o'r Ganolfan Ymchwil i Seiber-fygythiadau, wedi cynrychioli CYTREC ac Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn yr uwchgynhadledd i nodi Ail Flwyddyn Goffa Galwad Christchurch.

Sefydlwyd Galwad Christchurch mewn ymateb i'r digwyddiadau terfysgaidd erchyll mewn dau fosg yn Christchurch, Seland Newydd, yn 2019. Lansiwyd Galwad i Weithredu Christchurch gan Brif Weinidog Seland Newydd, Jacinda Ardern a Prif Weinidog Ffrainc, Emmanuel Macron. 

Mae'n cynrychioli ymrwymiad gan Lywodraethau a chwmnïoedd technoleg i ddileu cynnwys gan derfysgwyr ac eithafwyr treisgar ar-lein.  Mae'n seiliedig ar yr argyhoeddiad bod rhyngrwyd diogel ac agored am ddim yn cynnig buddion rhagorol i gymdeithas.  Mae parch at ryddid mynegiant yn hanfodol, fodd bynnag, cred yr Alwad yw nad oes gan neb yr hawl i greu na rhannu cynnwys gan derfysgwyr ac eithafwyr treisgar ar-lein.

Mae hi bellach yn ddwy flynedd ers lansio'r alwad ac mae Prif Weinidog Ardern a’r Arlywydd Macron wedi galw ar arweinwyr ar draws Cymuned Galwad Christchurch i fod yn rhan o uwchgynhadledd rithwir fyd-eang i gytuno ar gynllun gwaith i rannu blaenoriaethau sy'n adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn i ddileu cynnwys gan derfysgwyr ac eithafwyr treisgar ar-lein.   Mae'r uwch-gynhadledd yn cynnwys cefnogwyr ar draws llywodraethau, byd diwydiant a chymdeithas sifil, a fydd yn ystyried y cynnydd hyd yn hyn ac yn adnewyddu eu cynllun gwaith i ddileu cynnwys gan derfysgwyr ac eithafwyr treisgar ar-lein.

Mae CYTREC yn aelod o Rwydwaith Cynghori Galwad Christchurch sy'n cynnwys nifer o grwpiau cymdeithas sifil o bedwar ban byd. Mae'n cynghori ac yn ymgynghori ar faterion polisi a mentrau sy'n gysylltiedig â'r Alwad.

Wrth siarad am fynychu'r uwchgynhadledd ar ran CYTREC, dywedodd Dr Vaughan:

"Mae'r angen inni fynd i'r afael â lledaenu cynnwys gan derfysgwyr ac eithafwyr treisgar ar-lein wrth sicrhau y caiff hawliau dynol eu hybu a'u diogelu a bod y rhyngrwyd yn ddiogel ac ar gael am ddim i bawb, yn bwysicach nag erioed.  Un o brif gryfderau'r Alwad yw'r ffaith mai menter aml-randdeiliaid ydyw, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'r Rhwydwaith Cynghori i fynd i'r afael â'r materion hollbwysig hyn."

Dysgwch ragor am Alwad Christchurch.

Rhannu'r stori