Monica Kohli, Monica Kohli, Cymrawd Gwadd yr IISTL

Monica Kohli

Mae Monica Kohli yn uwch-gyfreithiwr sy'n arbenigo mewn cyfraith forwrol. Mae ganddi gymwysterau deuol yn India a Chymru a Lloegr ac mae wedi bod yn ymarfer cyfraith llongau a masnach am y ddau ddegawd diwethaf,  fel bargyfreithiwr yn India, ac fel cyfreithiwr yn y DU. Am y 13 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn Uwch-gyfreithiwr yn Gard, y mwyaf o'r Clybiau Diogelu ac Indemniad, gan gynghori perchnogion llongau, siarterwyr a masnachwyr ar faterion cyfreithiol sy'n ymwneud â llongau a masnachu ledled y byd. Mae hi wedi gweithio ar brosiectau mewnol sy'n ymchwilio i dechnoleg ac arloesedd cyfreithiol – gan gynnwys deallusrwydd artiffisial a Rhaglennu Niwroieithyddol – gan wneud gwaith cyfreithiol mewnol yn effeithlon ac yn ddarbodus.

Mae gan Monica gleientiaid ac aelodau yn Llundain, Oslo, Dubai, Istanbul, Singapôr, Hong Kong a Mumbai.

Mae'n siarad mewn digwyddiadau yn y ddinas a thramor ar dechnoleg gyfreithiol, amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiant morwrol ac ar destun o ddiddordeb sef cyfraith llongau. Ar hyn o bryd, mae'n Llywydd "Women in Shipping and Trade Association" (WISTA UK) ac yn Gadeirydd Cymdeithas Forwrol India y DU (IMA, UK). Mae hi hefyd yn Gomisiynydd Sgiliau Morwrol, ac yn ymddiriedolwr ar y bwrdd ar gyfer sefydliadau sy'n canolbwyntio ar addysg ac ar gyfraith amgylcheddol.

Ar wahân i gymryd rhan yn nigwyddiadau’r IISTL, mae Monica hefyd yn ymwneud â hyfforddi myfyrwyr LLM â’r nod o wella eu rhagolygon cyflogadwyedd.

Ei phroffil LinkedIn