Yr arglwydd Clarke yn traddodi darlith gyhoeddus yr IISTL 2016

Yr arglwydd Clarke yn traddodi darlith gyhoeddus yr IISTL 2016

Yr arglwydd Clarke yn traddodi darlith gyhoeddus yr IISTL 2016

Yr Arglwydd Clarke, a fu gynt yn adnabyddus iawn fel Anthony Clarke CB o 2 Essex Court, oedd gwestai'r Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol (IISTL) ar 1 Rhagfyr i draddodi darlith gyhoeddus am foeseg i gynulleidfa o aelodau'r cyhoedd, academyddion, a swyddogion a myfyrwyr y Brifysgol.

Yn ei ddarlith, arfarnodd yr Arglwydd y safonau moesegol y disgwylir i gyfreithwyr eu cyflawni drwy roi enghreifftiau o'i yrfa hir fel bargyfreithiwr a barnwr (gan gynnwys cyfnod diddiolch yn cyflawni rôl Meistr y Rholiau) a ddechreuodd ym 1958. Ef oedd barnwr cyntaf yr Uchel Lys i gael ei ddyrchafu'n uniongyrchol i'r Goruchaf Lys a chafodd ei gyflwyno yn y digwyddiad gan yr Athro Elwen Evans CB, Pennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg, bargyfreithiwr cyfraith trosedd o fri.

Yn dilyn sesiwn holi ac ateb fywiog ar ddiwedd y digwyddiad, diolchodd yr Athro Soyer, Cyfarwyddwr yr IISTL, yn gynnes i'r Arglwydd Clarke am, ymysg pethau eraill, egluro mai'r safonau moesegol perffaith a gyflawnir yn gyson yn y Bar sy'n gwahaniaethu rhwng yr awdurdodaeth hon a llawer eraill. Yn wir, dyma un o'r pethau sy'n denu partïon o bob cwr o'r byd i gyflafareddu ac i gyfreithia yng Nghymru a Lloegr. 

SOSREP yn traddodi darlith gyhoeddus ysgol y gyfraith

SOSREP yn traddodi darlith gyhoeddus ysgol y gyfraith

SOSREP yn traddodi darlith gyhoeddus ysgol y gyfraith

Mae’r SOSREP yn gyfrifol i Lywodraeth y DU am argyfyngau morol o fewn dyfroedd y DU sy'n cynnwys llongau neu blatfformau sefydlog pan geir risg sylweddol o lygredd.  Mae'n gyfrifol am oruchwylio, rheoli ac, os oes angen, ymyrryd ac arfer cyfrifoldebau 'gorchymyn a rheoli' er budd gor-redol y DU. Crëwyd y rôl hon ym 1999 fel rhan o ymateb y Llywodraeth  i adolygiad yr Arglwydd Donaldson o weithgareddau achub ac ymyrryd a chyfrifoldebau gorchymyn a rheoli mewn perthynas â nhw. Nododd Mr Shaw y daeth yr angen i gydlynu ymateb achub mewn achosion llygredd yn amlwg yn dilyn digwyddiad y Sea Empress ym 1996, a gafodd effeithiau trychinebus ar arfordir Cymru.

Ar ddiwedd ei ddarlith, diolchodd yr Athro Andrew Halpin, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, i Mr Shaw am ei gyflwyniad ysgogol a chyflwynodd drafodaeth agored am rai o'r materion allweddol y cyfeiriwyd atynt.

Darlith gyhoeddus flynyddol ysgol y gyfraith a draddodwyd gan Mr Jacobsson

Darlith gyhoeddus flynyddol ysgol y gyfraith a draddodwyd gan Mr Jacobsson

Darlith gyhoeddus flynyddol ysgol y gyfraith a draddodwyd gan Mr Jacobsson

Bu Mr Jacobsson, Cyfarwyddwr y Cronfeydd Iawndal Rhyngwladol am Lygredd Olew (IOPC) a ymwelodd â'r Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol ym mis Ionawr 2006, hefyd yn traddodi'r ddarlith gyhoeddus flynyddol yn Ysgol y Gyfraith. Bu'r ddarlith - "International Regime and Compensation for Ship-source Oil Pollution Damage: The Legal and Political Aspects", yn denu diddordeb o'r Brifysgol ac o'r rhanbarth, yn benodol ymysg cwmnïau cyfreithiol, asiantaethau amgylcheddol ac awdurdodau porthladdoedd lleol. Bu Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro Richard B Davies, hefyd yn bresennol yn y ddarlith. Yn dilyn y ddarlith, cynhaliwyd derbyniad a roddodd gyfle i'r gwesteion gael trafodaethau diddorol pellach â Mr Jacobsson ynghylch yr agweddau cyfreithiol ac economaidd ar lygredd olew.

Roedd darlith Mr Jacobsson yn hynod amserol, gan ystyried cydweithrediad yr Ysgol â Technium Sir Benfro i sefydlu Canolfan Cyfraith a Pholisi'r Amgylchedd ac Ynni. Mae datblygu Technium Sir Benfro yn deillio o rôl y rhanbarth hwn fel un o brif gyflenwyr nwy naturiol y DU, yn ogystal â'i bwysigrwydd hanesyddol a pharhaus ym maes puro olew.