Awgrymiadau darllen

Os ydych chi wedi sicrhau eich lle ar gwrs y gyfraith yn Abertawe eisoes, neu os ydych chi’n chwilio am ddeunyddiau darllen cychwynnol i baratoi ar gyfer astudio am eich gradd yn y gyfraith, mae gennym restr ddarllen i chi.

Mae ein hacademyddion wedi darparu eu rhestr orau o lyfrau, podlediadau ac adnoddau ar-lein eraill y dylai pob myfyriwr eu darllen, er mwyn cael trosolwg o elfennau amrywiol o’r gyfraith a’n system gyfreithiol. Bwriad y rhain yw rhoi blas i chi ar y deunydd y gallech fod yn ymdrin ag ef wrth astudio’r gyfraith yn y brifysgol.

Pam dylwn i ddarllen y rhain?

Rydym wedi llunio’r rhestr hon o’r llyfrau a’r deunyddiau darllen gorau i fyfyrwyr y gyfraith er mwyn eich helpu yn y ffyrdd canlynol:

  • Byddant yn rhoi cyfle i chi ddod yn gyfarwydd â pheth o’r derminoleg a gaiff ei defnyddio yn ystod eich gradd yn y gyfraith, cyn i chi ddechrau astudio yn ysgol y gyfraith.
  • Os nad ydych chi wedi cyflwyno cais eto, gall yr achosion a’r wybodaeth a geir yn y ffynonellau hyn, ynghyd â’ch darllen eich hun, eich helpu i ysgrifennu datganiad personol cryf.
  • Bydd y cynnwys amrywiol, o hawliau dynol i gyfraith trosedd, yn eich helpu i ddechrau meddwl am gyfeiriad posib eich gyrfa, wrth i’ch diddordebau a’ch barn bersonol ddatblygu.

Rhestr ddarllen ac adnoddau ar-lein

BUDDSODDI YN EICH DYFODOL

Yma yn Abertawe, rydym yn buddsoddi yn nyfodol pob un o’n myfyrwyr y gyfraith. Rydym yn darparu mynediad am ddim at gyfres o gronfeydd data ar-lein, sy’n arbed arian i’n myfyrwyr gan na fydd angen prynu copïau caled. Darparwn fynediad at yr adnoddau canlynol:

HeinOnline, i-Law, Law Trove, Legislation.co.uk, Lexis Library, Lexis PSL, Oxford Scholarship, Practical Law, a Westlaw