Y Pedwerydd mewn Cyfres o Fyfyrdodau ar Adroddiad y Comisiwn

Dyma'r pedwerydd mewn cyfres o blogiau gan aelodau o Ganolfan Ymchwil Llywodraethu a Hawliau Dynol Prifysgol Abertawe sy'n trafod agweddau gwahanol ar adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Mae'r blog hwn yn ystyried goblygiadau'r adroddiad ar gyfer ymatebion yng Nghymru i'r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys ein hymagwedd at gynhyrchu ynni.

Cyd-destun

Cydnabuwyd yn yr adroddiad hwn bod newid yn yr hinsawdd yn un o'r materion sydd o'r pwys mwyaf i bobl Cymru ac yn flaenoriaeth ar gyfer polisïau.  Nid oes amheuaeth nad yw ymateb i newid yn yr hinsawdd yn amcan byd-eang, ond mae hefyd yn faes lle dylai Cymru, a lle gall Cymru, chwarae rôl arwyddocaol. Maes cysylltiedig, gan ystyried ei bwysigrwydd i'r ymateb i newid yn yr hinsawdd, yw ynni. Nododd yr adroddiad fod hwn yn un o chwe maes lle mae ffiniau datganoledig yn allweddol a lle y gall hyn beri problem.

A head shot of Tom

Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru a Newid yn yr Hinsawdd

Mae'n rhyfeddol, gan ystyried safle newid yn yr hinsawdd ar frig yr enghreifftiau o faterion sy'n peri pryder i'r cyhoedd, mai prin iawn yw cyfeiriadau ato ym mhrif gorff yr adroddiad. Mae'r adroddiad yn cyfeirio'n gryno'n unig at (an)allu Cymru fel gwlad fach i 'reoli' a dylanwadu ar heriau byd-eang ac mae'r drafodaeth ddilynol yn cyfuno materion o ran maint ac annibyniaeth mewn ffordd nad yw'n ddefnyddiol. Ymddengys fod yr adroddiad yn tybio, ar gam, nad yw gweithredwyr is-genedlaethol, megis Cymru, yn gallu dylanwadu ar ymatebion i newid yn yr hinsawdd (gweler, er enghraifft, Cymru fel 'Arweinydd Ewropeaidd' yng nghyd-destun byd-eang menter Net Zero Futures Climate Group ) a’i fod yn bychanu'r potensial presennol i fynd i'r afael â'r materion hyn o fewn y setliad datganoli yn ogystal â cheisio ei ddiwygio i wneud hyn yn fwy effeithiol yn y dyfodol.

Er i'r adroddiad nodi mai gallu cyfyngedig yn unig sydd gan bob gwladwriaeth i weithredu'n annibynnol i fynd i'r afael â materion byd-eang/systemig, mae gweithredu cyfunol yn adeiladu ar ymatebion gwladwriaethau unigol. Er enghraifft, mae gan Gymru fframwaith cyfreithiol ar gyfer targedau a chyllidebu o ran carbon yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a manteisiodd yr adroddiad ar y cyfle i ymdrin â materion llywodraethu o bwys canolog ym maes newid yn yr hinsawdd, yn enwedig perthnasedd y nodau lles sy'n gymwys o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Fodd bynnag, mae'r pwyslais a fabwysiadwyd yn canolbwyntio i raddau helaeth ar un elfen yn unig o'r nod 'Cymru ffyniannus' sef effaith 'marchnadoedd ariannol' yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd. Wrth wneud hyn nid oes unrhyw sylw yn cael ei roi i ffiniau planedol/effeithiau diriaethol a chymdeithasol newid yn yr hinsawdd a fydd, heb os, yn effeithio ar Gymru, a goblygiadau posib y rhain ar gyfer dyfodol bywyd yng Nghymru a democratiaeth Gymreig.

Ffiniau Datganoledig ac Ynni

Mae'r adroddiad yn cydnabod y bydd hi'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru'n rheoli'r ffyrdd o gynhyrchu ynni er mwyn cyflawni nodau sero net yng Nghymru, a bod hwn yn faes lle bydd angen paratoi ar gyfer arloesi technegol cyflym. Gan gofio hynny, mae ffiniau datganoledig ynni yn bwnc 'llosg', yn enwedig gan ystyried bod cynhyrchu ynni wrth wraidd y ffiniau rhwng pwerau llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU. Mae cynllunio defnydd tir a gwarchod yr amgylchedd yn faterion sy'n amlwg wedi'u datganoli, serch hynny, mae diogelwch a chyflenwad ynni o fewn cylch gorchwyl Llywodraeth y DU.

Mae gan Gymru dargedau uchelgeisiol o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac mae daearyddiaeth ac arfordir y wlad yn cynnig potensial sylweddol ar gyfer pŵer gwynt, hydrodrydanol a llanwol. Mae'n amlwg bod y materion cymhleth o ran ffiniau sy'n codi yn y cyd-destun hwn yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i gynllunio ar gyfer y cyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ac achub ar y rhain. Effeithiwyd ar y ffiniau hyn gan newidiadau olynol yn y setliad datganoli i Gymru, yn benodol Deddf Cymru 2017, a roddodd fwy o reolaeth i Lywodraeth Cymru ar faterion megis echdynnu olew a nwy ar y tir a chynllunio ac isadeiledd.

Er gwaethaf y cynnydd yn y pŵer sydd gan Gymru ym maes cynhyrchu ynni, mae cydweithredu rhwng llywodraethau'n hanfodol i ddatblygiad cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Nodwyd yn gywir bod y problemau ymarferol sy'n deillio o ddyraniad  afresymegol ac anymarferol y cyfrifoldebau rhwng llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU yng nghyd-destun ynni yn ffynhonnell tensiwn. Yn benodol, mae'r adroddiad yn amlygu'r ymgysylltiad 'hwyr ac annigonol' gan Lywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru ar Ddeddf Ynni 2023. Mae'r problemau hyn hefyd yn codi yng nghyd-destun dirywiad ehangach mewn ymarfer ymgynghori. I ymateb i'r pryderon hyn, mae'r adroddiad yn argymell bod llywodraeth y DU a llywodraeth Cymru'n creu grŵp o arbenigwyr i roi cyngor brys ar sut y gellid diwygio'r setliad datganoli a rhyngweithio rhwng y llywodraethau mewn perthynas ag ynni. Mae'r argymhelliad hwn yn eithaf amwys, rhywbeth a all amharu ar yr ymateb brys a geisir (ac sy'n hanfodol gan ystyried yr argyfwng hinsawdd). Mae'n anodd gweld hefyd sut gellid datrys y problemau presennol mewn perthynas â chydweithredu rhynglywodraethol yn absenoldeb unrhyw fecanwaith i fynnu bod newidiadau cadarnhaol yn cael eu gwneud.

Y syndod mwyaf efallai am argymhellion yr adroddiad yng nghyd-destun ffiniau datganoli ac ynni yw'r pwyslais ar Ystad y Goron. Mae'r adroddiad yn argymell y dylai cylch gorchwyl y grŵp ar gydweithredu rhynglywodraethol ar ynni gynghori ar yr opsiynau ar gyfer datganoli Ystad y Goron i Lywodraeth Cymru (gan nodi bod hyn eisoes wedi digwydd yn yr Alban). Yn ddiamau, mae gan Ystad y Goron rôl bwysig i'w chwarae wrth gyflawni targedau sero net, i'r graddau y mae'r holl ddefnydd o dir yng Nghymru yn berthnasol. Mae hefyd yn amlwg yn fater sy'n gysylltiedig ag annibyniaeth a dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Fodd bynnag, mae hwn yn faes sydd eisoes wedi cael ei drafod yn helaeth ac mae'n llawer llai cymhleth na'r materion eraill a nodwyd yn yr argymhelliad, a dylid ei drin fel tasg ar wahân fel na fydd y gwaith o fynd i'r afael â hi yn cael ei rwystro drwy geisio ymdrin â meysydd pryder eraill sy’n llai datblygedig.

Mae pwynt olaf i'w nodi ynghylch ffiniau datganoli a chynhyrchu ynni'n ymwneud â grymuso cymunedol/lleol. Efallai y bydd angen ymateb yn fwy ystyrlon i bryderon ynghylch ymagweddau at ddatblygu ynni adnewyddadwy yn lleol yng nghyd-destun canoli'r grid cenedlaethol a sicrhau ei fod yn addas i'r dyfodol.  Mae hwn yn faes sydd eisoes wedi cael ei drafod yn helaeth ac mae'n llawer llai cymhleth na'r materion eraill a nodwyd yn yr argymhelliad. Felly, efallai y byddai wedi bod yn fwy priodol ymdrin â hyn fel tasg ar wahân fel na fydd y gwaith o fynd i’r afael â hi yn cael ei rwystro drwy geisio ymdrin â meysydd pryder eraill sy'n llai datblygedig.