AMDANON NI: GRŴP YMCHWIL LLYWODRAETHIANT A HAWLIAU DYNOL
Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar theorïau llywodraethiant, llunio fframweithiau llywodraethiant normadol a sefydlu strwythurau i roi’r rhain ar waith. Maen nhw hefyd yn gweithio yn y mannau hynny lle mae hawliau dynol a heriau cyfredol yn cwrdd â’i gilydd, megis ym maes newid yn yr hinsawdd, lloches a throsedd ryngwladol.
Ymhlith ein meysydd ymchwil cyfredol y mae:
- Cyfraith Lloches a Ffoaduriaid
- Cyfraith Hawliau Dynol Ryngwladol
- Cyfraith Trosedd Ryngwladol
- Cyfraith Amgylcheddol
- Theori Gyfansoddiadol
- Y Gyfraith a Llywodraethiant yng Nghymru
- Cyfraith Iechyd
Rydym yn gymuned academaidd gydnerth sy’n cyhoeddi gwaith o safon ryngwladol. Rydym yn trafod ein hymchwil flaenllaw yn rheolaidd yn y Grŵp Trafod Llywodraethiant a Hawliau Dynol.