Grŵp Rhanddeiliaid Hawliau Dynol Cymdeithas Sifil Cymru

Mae'r Grŵp Ymchwil i Lywodraethu a Hawliau Dynol yn falch o gynnal archif Grŵp Rhanddeiliaid Hawliau Dynol Cymdeithas Sifil Cymru (HRSG). Mae aelodau'r HRSG yn cynnwys sefydliadau anllywodraethol ac academyddion sydd â diddordeb mewn hawliau dynol. Mae arsylwyr o Lywodraeth Cymru, y Senedd a swyddfeydd comisiynwyr Cymru hefyd yn mynd i gyfarfodydd yr HRSG o bryd i'w gilydd.

 

Amcan

 

Nod yr HRSG yw hyrwyddo dealltwriaeth well o'r fframwaith hawliau dynol rhyngwladol a'i gylchoedd monitro, i wella cydymffurfiaeth ag argymhellion corff y cytuniad ac i adrodd am gynnydd. Yn ogystal â hynny, mae'r grŵp yn ceisio nodi cyfleoedd er mwyn dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrth roi hawliau dynol ar waith yng Nghymru a chyfrannu at godi ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Cyrchu Dogfennau Allweddol yr HRSG