Undoing Devolution by the Back Door?

Undoing Devolution by the Back Door? The Implications of the United Kingdom Internal Market Act 2020 

Bydd y Grŵp Ymchwil Llywodraethu a Hawliau Dynol ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnal cynhadledd undydd yn Abertawe ddydd Llun 11 Gorffennaf. 

Bydd y gynhadledd undydd hon, a ariennir gan Gronfa Prosiectau a Digwyddiadau Bach Cymdeithas Ysgolheigion y Gyfraith, yn canolbwyntio nid yn unig ar ymgais aflwyddiannus llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddeddfu er mwyn rhyddhau’r Deyrnas Unedig o’i rhwymedigaethau cyfreithiol rhyngwladol, er mewn ‘ffordd benodol a chyfyng iawn’, ond, yn hytrach, ar effaith UKIMA, , a allai fod yn gyffredinol ac yn bellgyrhaeddol, ar drefniadau datganoli’r Deyrnas Unedig. 

Darganfod mwy.

The Senedd Election and the Constitutional Prospects for Welsh Devolution

Mae Dr Gareth Evans wedi cyhoeddi blog ar y cyd ag UK Constitutional Law Association. 

Mae’r blog yn myfyrio ar ganlyniad yr etholiad yng Nghymru a chyfansoddiad gwleidyddol y Senedd gan osod rhai o’r rhagolygon cyfansoddiadol y gellir eu disgwyl yn ystod y chweched Senedd. 

Darllenwch y postiad blog

A head shot of Gareth

GRŴP CYFEIRIO RHANDDEILIAID HINKLEY POINT C

Mae'r Athro Karen Morrow yn rhan o Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Hinkley Point C, a sefydlwyd ym mis Gorffennaf 2020 gyda’r dasg o gyfleu barn rhanddeiliaid i Weinidogion Cymru ynghylch materion sy'n codi o brosiect Hinkley Point C sy'n berthnasol i Gymru a phobl Cymru.

Amcan y grŵp oedd deall, asesu a myfyrio ar farn rhanddeiliaid o ran goblygiadau prosiect Hinkley Point C i Gymru. Aeth rhai rhanddeiliaid yn uniongyrchol at y Grŵp i rannu eu barn a’u tystiolaeth wrth i’r Grŵp wahodd rhanddeiliaid eraill i gymryd rhan yn y broses drwy ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig neu ymuno â chyfarfodydd y Grŵp. 

Gobaith y Grŵp yw y bydd ei waith yn annog asiantaethau perthnasol i asesu ac adolygu eu rolau eu hunain ym mhrosiect Hinkley Point C ac ystyried a ydynt wedi gwneud, ac yn parhau i wneud, bopeth y gallent ei wneud yn rhesymol i ddiogelu a gwella'r amgylchedd, a mwyafu'r buddion niferus y gall y prosiect eu cynnig. 

Mae’r Grŵp yn cynnwys arbenigwyr o ystod o feysydd perthnasol, o iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd i wyddorau'r ddaear a'r cefnforoedd, peirianneg a'r gyfraith.  Drwy weithredu o bell trwy gydol y pandemig, mae'r Grŵp wedi denu a chadw aelodau ag arbenigedd go iawn yn eu meysydd, ac mae wedi cyrraedd staff allweddol mewn sefydliadau rhanddeiliaid.

Dysgwch ragor am Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Hinkley Point C a darllenwch adroddiad y Grŵp.

Llywodraethu Cymru

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dathlu 20 o flynyddoedd o lywodraeth. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi ennill pwerau cynyddol er mwyn datblygu’r gyfraith a pholisi yn y wlad hon. Mae ymchwilwyr yn Ysgol y Gyfraith wedi cyfrannu at ymchwil sy’n dadansoddi ei gynnydd a rhoi awgrymiadau ar gyfer y dyfodol mewn amrywiaeth o gyd-destunau gwahanol; o hawliau plant a chyfiawnder ieuenctid i ddiogelu amgylcheddol a datblygu awdurdodaeth ar wahân ar gyfer Cymru. 

Dysgwch fwy am ein hymchwil yn y maes hwn.

DEFNYDDIO TYSTIOLAETH FFYNONELLAU AGORED

Ers 2018, mae’r Athro Yvonne McDermott Rees yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton (ar y cyd â myfyrwyr MA a myfyrwyr PhD) wedi ceisio ymchwilio i’r graddau y mae tystiolaeth ffynonellau agored yn gweddnewid y gwaith o ganfod ffeithiau ym maes hawliau dynol, a sut mae technoleg yn gallu goresgyn rhai o’r rhwystrau rhag eu defnyddio yn y llysoedd.

Yn ogystal ag ymchwil gyfreithiol sy’n seiliedig ar nifer fawr o gyfweliadau gydag ymchwilwyr hawliau dynol mae’r prosiectau rhyngddisgyblaethol hyn wedi datblygu offer technolegol newydd i gadw a dadansoddi tystiolaeth ffynonellau agored. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys gwaith ar y cyd ag academyddion o Brifysgol Heriot-Watt; Prifysgol Caerwysg; Prifysgol Manceinion; Prifysgol California, Berkeley; Prifysgol Carnegie Mellon a Phrifysgol Ateneo de Manila, a’r defnyddwyr ymchwil/partneriaid mewn diwydiant GLAN; Amnest Rhyngwladol; nifer o gyrff y Cenhedloedd Unedig; Syrian Archive; WAPR – Y Philipinau; VFRAME, a Huridocs.

Ariannwyd y tîm gan yr ESRC; NESTA; Cherish-DE; Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) a’r Gronfa Ymchwil ar Heriau Byd-eang (GCRF).

Dewch i wybod mwy am yr ymchwil hon.

CYFRAITH AMGYLCHEDDOL A LLYWODRAETHIANT YNG NGHYMRU YN DILYN BREXIT

Ers 2016, mae Dr Victoria Jenkins wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r trafodaethau yng Nghymru ynghylch effaith llywodraethiant ar gyfraith amgylcheddol yn dilyn Brexit.

Yn 2016, cyhoeddodd Victoria bapur ar gyfer Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y Deyrnas Unedig ar Brexit a Chyfraith Amgylcheddol yng Nghymru. Mae hi wedi cyflwyno ar y pwnc hwn sawl gwaith ers hynny i sefydliadau amgylcheddol amrywiol ac yn fwyaf diweddar yng Nghynhadledd Cymru’r Gyfraith ym mis Hydref 2020. Roedd hefyd yn aelod o banel arbenigol yn ystyried y mater hwn gerbron y Senedd a dyfarnodd y sefydliad hwn Gymrodoriaeth iddi er mwyn parhau i ymchwilio i faterion sy’n codi yn sgil deddfu cydweithredol ar draws y DU yn dilyn Brexit.

Dewch i wybod mwy.

Y GRŴP TRAFOD LLYWODRAETHIANT A HAWLIAU DYNOL

Bydd ein grŵp yn cwrdd yn fisol i drafod gwaith sydd ar y gweill a datblygiadau diweddar ym maes Cyfraith Gyhoeddus. Fel arfer, mae’r GHRDG yn cwrdd i drafod papurau ymchwil drafft cydweithiwr a neilltuir y cyfarfodydd i gael trafodaethau manwl a rhoi adborth. Mae’r adborth hwn wedi bod yn werthfawr wrth ddatblygu papurau’r dyfodol. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r Grŵp wedi trafod y papurau canlynol:

  • Alex Latham-Gambi, ‘Delweddu’r Cyfansoddiad: rhannu ystyron mewn arferion cyfansoddiadol a’r goblygiadau ar gyfer theori gyfansoddiadol’
  • Val Aston, ‘Tywod symudol a seiliau simsan: y sail gyfreithiol yn y gyfraith gyffredin ym maes gwyliadwriaeth yr heddlu a chasglu data’
  • Emma Borland, 'Datgelu’r Pileri: Tegwch Rawlsaidd o safbwynt y Ffoadur'
  • Katy Vaughan, ‘Ailwerthuso Isafswm Safonau Tegwch Gweithdrefnol yng nghyd-destun Diogelwch Cenedlaethol: Defnyddio Eiriolwyr Arbennig mewn Gweithdrefnau Deunydd Caeëdig'.
  • Victoria Jenkins a Jonathon Walker (Prosiect Mawndiroedd Cymru) ‘Cynnal, Gwella ac Adfer Mawndiroedd Cymru: Datgladdu Heriau’r Gyfraith a Rheoli Tir yn Gynaliadwy.’
lady justice

Cyfraith Amgylcheddol a Hawliau Dynol yn yr Anthroposen

Gan barhau â’i gwaith ar gyfraith amgylcheddol a hawliau dynol yn yr Anthroposen bydd Karen Morrow yn traddodi papur o’r enw 'Planetary Sovereignty: What does it Mean for the Human-Nature Relationship?' yn y gweithdy cychwynnol sy’n trafod athroniaeth gysyniadol ac yn rhan o brosiect ymchwil ‘Constitutionalizing in the Anthropocene’ Adran Cyfraith Gyhoeddus a Llywodraethiant, Ysgol y Gyfraith Tilburg (Rhagfyr 2020). Yr Athro Han Somsen sy’n arwain y prosiect chwe blynedd hwn sy’n cael ei ariannu gan Weinidogaeth Addysg yr Iseldiroedd.

Dewch i wybod mwy.

Deallusrwydd Artiffisial a Gofal Iechyd

Gall Deallusrwydd  Artiffisial fod o gymorth mewn amrywiaeth o agweddau ar ofal iechyd, megis helpu clinigwyr i wneud penderfyniadau, monitro iechyd cleifion ac awtomeiddio tasgau gweinyddol o ddydd i ddydd. Mae'r Nodyn POST hwn gan Dr Caroline Jones, a adolygwyd gan gymheiriaid, yn rhoi trosolwg o'r ffyrdd hyn o'i ddefnyddio a'u heffeithiau posib ar gost ac ansawdd gofal iechyd ac ar y gweithlu.

Rhagor o wybodaeth.