Yr Athro Murray yn gwneud gwaith maes yn Ffiord Sermilik, de ddwyrain yr Ynys Las. Llun: Damien Mansell.

Yr Athro Murray yn gwneud gwaith maes yn Ffiord Sermilik, de ddwyrain yr Ynys Las. Llun: Damien Mansell.

Dyfarnwyd CBE i'r Athro Tavi Murray, Athro Rhewlifeg yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd am ei gwasanaethau i ymchwil i newid yn yr hinsawdd a rhewlifeg.

Mae'r Athro Murray yn un o'r gwyddonwyr amgylcheddol mwyaf blaenllaw yn y byd ac mae'n arwain y Grŵp Rhewlifeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n ymchwilydd rhyngddisgyblaethol amlwg sy’n pontio ffiseg, daearyddiaeth a chyfrifiadureg yn ei hymdrech i ddarparu gwell cyfyngiadau ar gyfraniadau rhewlifoedd a llenni iâ at godi lefel y môr yn fyd-eang.

Meddai’r Athro Murray: “Mae'n fraint ac yn bleser mawr i mi dderbyn y wobr hon. Nod ein hymchwil i rewlifeg yn Abertawe yw gwneud gwell rhagfynegiadau o godiad lefel y môr o lenni iâ'r Ynys Las ac Antarctica, sydd mor bwysig i ddyfodol ein planed. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddaf yn ysbrydoli gwyddonwyr ifanc, yn enwedig merched a menywod, i weithio ym maes gwyddoniaeth ac ar faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd a newid yn yr hinsawdd.”

Mae'r Athro Murray yn flaenllaw ym maes rhewlifeg ac mae wedi bod ar flaen y gad wrth ddefnyddio geoffiseg a thechnegau synhwyro o bell. Mae hefyd yn dadlau'n frwd dros gysylltu'n eang â'r gymuned ac yn gweithio i ennyn diddordeb pobl ifanc am wyddoniaeth a llywio'r cyhoedd a llunwyr polisi'n fwy cyffredinol am faterion sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd.

Yn 2005, penodwyd yr Athro Murray yn Athro Rhewlifeg ym Mhrifysgol Abertawe lle mae'n arwain Grŵp Rhewlifeg llwyddiannus iawn Abertawe. Ar ôl graddio o Brifysgol Cymru Aberystwyth ym 1987, dilynodd PhD yn Aberystwyth a'r Scott Polar Research Institute yng Nghaergrawnt cyn gweithio ym Mhrifysgol British Columbia a Phrifysgol Leeds.

Dyfarnwyd Polar Medal 2006 i'r Athro Murray hefyd am ei hymchwil yn yr Arctig a'r Antarctig ac mae wedi ennill Medal Frances Hoggan Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Rhannu'r stori