Cyllid gwerth £17 miliwn ar gyfer ymchwil data cydweithredol yng Nghymru

Bydd menter y mae Prifysgol Abertawe’n cymryd rhan ynddi sydd wedi trawsnewid sut gellir defnyddio data i roi cipolwg ar faterion cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru yn parhau, diolch i fuddsoddiad gwerth bron £17 miliwn.

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru) wedi cael £16,985,944 tan 2026 fel rhan o fuddsoddiad Ymchwil Data Gweinyddol y DU (ADR UK) gwerth £90 miliwn i'r DU yn ei chyfanrwydd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy’n rhan o sefydliad Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI).

Cafodd YDG Cymru ei sefydlu yn 2018 fel rhan o ADR UK, ac mae’n partneru arbenigwyr ymchwil Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd â dadansoddwyr o Lywodraeth Cymru. Mae tîm YDG Cymru yn cynnwys academyddion blaenllaw sy’n arbenigo yn y prif faterion y mae’r genedl yn eu hwynebu. Drwy gydweithio, mae YDG Cymru’n ceisio sicrhau y defnyddir dealltwriaeth a thystiolaeth amserol a ysgogir gan ddata gweinyddol er mwyn helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ar bolisïau ar gyfer pobl Cymru.

Mae gwaith YDG Cymru yn cyd-fynd â’r meysydd allweddol a gafodd eu nodi yn Rhaglen Lywodraethu 2021-2026 Llywodraeth Cymru megis addysg, iechyd meddwl a thai. Mae’n defnyddio annibyniaeth ac arbenigedd academaidd tîm o ymchwilwyr, dadansoddwyr a gwyddonwyr data.

Mae tîm YDG Cymru wedi arwain y ffordd ym maes technegau blaenllaw o ddadansoddi data a rhagoriaeth ymchwil, gan weithio ochr yn ochr â Banc Data SAIL, sy’n adodd byd-enwog, er mwyn cyflawni gwaith ymchwil cadarn, diogel a gwybodus. O ganlyniad, hyd yn hyn mae YDG Cymru wedi gwneud dadansoddiadau sylweddol dan arweiniad ymchwilwyr er mwyn dylanwadu ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ym meysydd tai, lles, blynyddoedd cynnar, addysg a sgiliau, ac iechyd meddwl, yn ogystal â phandemig Covid-19 yn fwyaf diweddar.

Gwnaeth YDG Cymru chwarae rhan ganolog wrth helpu i ddeall y pandemig a gwneud penderfyniadau yn ei gylch ar lefel polisi yng Nghymru ac ym mhob rhan o’r DU, wrth i ymchwilwyr weithio i ddeall lledaeniad y pandemig yng Nghymru a’i effaith ar bobl a gwasanaethau. Bydd YDG Cymru’n parhau i helpu gyda’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru drwy gynnig cipolwg amserol ar faterion sy’n effeithio ar bobl Cymru, gan fynd i’r afael ag effaith eilaidd y pandemig ar bobl a gwasanaethau.

Meddai’r Athro David Ford, Cyd-gyfarwyddwr YDG Cymru ac Athro Gwybodeg Prifysgol Abertawe: “Mae YDG Cymru wedi buddsoddi’n sylweddol yn seilwaith ac arbenigedd y fenter er mwyn sicrhau y gellir defnyddio data dienw yn ddiogel i ddeall yn well y byd rydym yn byw ynddo.

“Hyd yma, mae ein rhaglen waith wedi creu allbynnau sylweddol sydd wedi helpu i lywio meysydd allweddol polisïau cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at y pedair blynedd nesaf wrth inni barhau i arloesi mewn arferion data diogel ac arddangos y gellir defnyddio data dienw’n ddiogel ac yn gywir er mwyn helpu i lywio’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru a ledled y DU.”

Meddai Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: “Rwy’n falch y bydd y gwaith arloesol gan bartneriaeth YDG Cymru yn parhau i gynnig dealltwriaeth a ysgogir gan ddata o’r heriau rydym yn eu hwynebu fel cenedl. Bydd y bartneriaeth barhaus hon yn ein galluogi i gael mynediad at sail dystiolaeth gyfoethocach, gan ein helpu i lywio a chefnogi penderfyniadau ar bolisïau yn y dyfodol wrth inni fynd ati i gyflwyno ein Rhaglen Lywodraethu a’n hymrwymiadau i ddatblygu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.”

Meddai Stephanie Howarth, Cyd-gyfarwyddwr YDG Cymru a Phrif Ystadegydd Cymru: “Dangosodd pandemig Covid-19, mewn ffordd ddigynsail, fodd modd gwneud dadansoddiadau cyflym pan gaiff arbenigwyr afael ar ddata dienw ac amserol. Gwnaeth ymdrechion YDG Cymru yn ystod y pandemig helpu i lywio nifer o benderfyniadau yn ystod y sefyllfa brysur a oedd yn newid yn gyflym.

“Gall data dienw a diogel roi’r wybodaeth y mae ei hangen er mwyn sicrhau bod y broses o lunio polisïau yng Nghymru a’r DU yn wybodus, gan helpu i wneud penderfyniadau gwell yn y pen draw ar gyfer y bobl sy’n byw yma.”

Ochr yn ochr ag ADR Northern Ireland, ADR Scotland, ADR England a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae YDG Cymru yn rhan o fuddsoddiad ADR UK ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (sy’n rhan o sefydliad Ymchwil ac Arloesi yn y DU).

Darllenwch ragor am ADR UK a sut gallwch gael gafael ar ddata'n ddiogel

Rhannu'r stori