Canmol gwaith arloesol y Brifysgol i hyrwyddo pwysigrwydd economi gylchol

Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i hyrwyddo economi gylchol wedi sicrhau cydnabyddiaeth ryngwladol. 

Fe'i henwyd yn brifysgol enghreifftiol gan yr Ellen Macarthur Foundation o ganlyniad i'w hamrywiaeth eang o weithgareddau ymchwil ac addysgu, yn ogystal â'r ffordd y mae'n cynnal ei champysau.

Nod yr ymddiriedolaeth, a sefydlwyd gan y fenyw a fu'n destun ysbrydoliaeth ym meysydd hwylio ac ymgyrchu, yw cyflymu'r broses o newid i economi gylchol. Mae economi gylchol yn ddewis amgen i economi draddodiadol sy'n ceisio lleihau gwastraff, adfer adnoddau ar ddiwedd cylch oes cynnyrch, a sicrhau y cânt eu cynhyrchu eto, gan leihau'r pwysau ar yr amgylchedd yn sylweddol.

Meddai Dr Jennifer Rudd, Uwch-ddarlithydd sy'n addysgu am newid yn yr hinsawdd: “Mae'r ffaith bod yr ymddiriedolaeth wedi tynnu sylw at y Brifysgol yn tanlinellu ein hymrwymiad i ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

“Yma yn Abertawe, rydym yn gwneud cyfraniad pwysig at ddeall a defnyddio'r economi gylchol, sef adnodd nad ymchwilir iddo ac nas defnyddir yn ddigonol wrth liniaru newid yn yr hinsawdd.”

Yn benodol, cydnabu'r ymddiriedolaeth fod y Brifysgol yn arwain nifer o raglenni ymchwil sy'n werth o leiaf filiwn o bunnau. Mae'r rhain yn cynnwys:

Amlygwyd gweithgareddau addysgu'r Brifysgol ar raglen CEIC, a arweinir gan Dr Gary Walpole ac sy'n rhan o'r addysg weithredol a gynigir yn yr Ysgol Reolaeth, fel enghraifft o addysg economi gylchol. Yn ogystal, mae'r Coleg Peirianneg yn cynnig modiwlau sy'n galluogi israddedigion i ddysgu am yr economi gylchol.

I ffwrdd o'r labordai a'r darlithfeydd, mae'r Brifysgol yn parhau i ymrwymo i reoli amrywiaeth o fentrau llwyddiannus sydd ar waith ar y campws. Mae'r rhain yn amrywio o'i rhaglen SWell, sy'n annog ac yn gwobrwyo staff am fyw mewn modd mwy cynaliadwy, i'w chyfranogiad yn y cynlluniau Terracycle a NappyCycle.

Hefyd, amlygodd yr ymddiriedolaeth y siop dim gwastraff na phlastig ar Gampws Singleton – yr un gyntaf a agorwyd gan unrhyw brifysgol yng Nghymru – i ddangos bod Abertawe ar flaen y gad.

Meddai Dr Emily Bacon, Darlithydd ar raglen CEIC: “Ystyrir bod yr ymddiriedolaeth yn arloesol yn y maes hwn. Mae hi wrth wraidd ymchwil, addysg a chamau gweithredu i amlygu a hyrwyddo economïau cylchol. Mae'r gydnabyddiaeth hon wir yn dangos effaith ein gwaith a sut rydym hefyd wedi meithrin enw dymunol bellach.”

Rhannu'r stori