Arbenigwyr yn datgan bod dysgu ar-lein yn ystod y cyfnodau clo wedi effeithio ar les plant

Bu'n anodd i blant ysgol uwchradd ganolbwyntio ar eu gwaith ysgol ac ymddiddori ynddo pan gyflwynwyd dysgu ar-lein yn ystod y cyfnodau clo, gan effeithio'n negyddol ar eu hyder a'u lles, yn ôl astudiaeth newydd. 

Arolygodd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd gyfanswm o 407 o ddisgyblion rhwng 11 a 18 oed yn ystod mis Tachwedd 2020 ar ôl i'r ysgolion ailagor.

Meddai'r prif awdur, yr Athro Nicola Gray, o'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe: “Roeddem am archwilio a oedd gwahaniaethau o safbwynt gallu disgyblion i ganolbwyntio, eu cymhelliant a'u brwdfrydedd rhwng cyfnodau addysgu ar-lein ac yn yr ystafell ddosbarth. Felly, gwnaethom ofyn i ddisgyblion gymharu eu profiad arferol yn yr ystafell ddosbarth â'u profiad o ddysgu ar-lein.”

Atebodd y disgyblion gwestiynau am eu gallu i ganolbwyntio, eu cymhelliant a'u brwdfrydedd, ac a oeddent yn hyderus yn eu gallu i ddysgu. Drwy ddadansoddi eu hymatebion, dangoswyd bod profiadau dysgu ar-lein disgyblion yn llawer llai cadarnhaol na'u profiadau o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth. Roedd y gwahaniaethau hyn hefyd yn fwy amlwg ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu penodol.

Ychwanegodd yr Athro Gray: “Gan fod ymchwil flaenorol wedi dangos bod 50 y cant o achosion gydol oes o anhwylderau iechyd meddwl yn dechrau cyn 14 oed, mae pryderon y byddai'r pandemig yn arwain at gynnydd mawr yn anawsterau iechyd meddwl pobl ifanc. Mae'r canlyniadau hyn yn dangos bod profiadau dysgu disgyblion yn llawer gwaeth na'u profiadau arferol yn yr ystafell ddosbarth. Mae hyn hyd yn oed yn waeth i'r rhai sydd â phroblemau cof gweithio. 

“Gan y dangoswyd bod cysylltiad rhwng brwdfrydedd dros addysg a lles meddwl plant, mae'n hanfodol bod addysgwyr yn dod o hyd i ffyrdd o oresgyn y problemau a gafwyd yn ystod addysg ar-lein er mwyn sicrhau na fydd angen i gyfran fwy o bobl ifanc gael cymorth iechyd meddwl ac na fydd rhagor o achosion o ymyrraeth.”

Ychwanegodd Tom Walters, aelod o'r tîm ymchwil ac uwch-arweinydd yn Ysgol Howell's, Llandaf (un o ysgolion y GDST): “Yn ystod y cyfnod dysgu ar-lein, roedd staff yn ymwybodol bod llawer o ddisgyblion yn cael anawsterau wrth ymaddasu i'r dull dysgu newydd, yn enwedig y rhai ag anawsterau dysgu penodol. Gan fod y dull dysgu hwn yn debygol o fod yn fwy cyffredin yn y dyfodol, roeddem yn awyddus i feithrin dealltwriaeth well o ofynion dysgu o bell. Felly, aethom ati i wneud hynny drwy ddefnyddio tystiolaeth.”

Mae'r papur llawn wedi cael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn British Journal of Educational Psychology.

Rhannu'r stori