Lluniau lloeren o’r mathau gwahanol o isadeiledd (argaeau, argaeau isel, lociau, argaeau mewn sianeli ac argaeau rhannol) a gofnodir yn y Global River Obstructions Database, ynghyd â nifer a chanran pob un ar y raddfa fyd-eang.

Lluniau lloeren o’r mathau gwahanol o isadeiledd (argaeau, argaeau isel, lociau, argaeau mewn sianeli ac argaeau rhannol) a gofnodir yn y Global River Obstructions Database, ynghyd â nifer a chanran pob un ar y raddfa fyd-eang.

Cyhoeddwyd cronfa ddata ofodol newydd o argaeau a rhwystrau eraill a adeiladwyd yn rhannol neu'n llawn ar draws afonydd mwyaf y byd.

Mae'r Global River Obstructions Database (GROD) yn cefnogi'r ymgyrch loeran Surface Water and Ocean Topography (SWOT) a arweinir gan NASA, CNES ac asiantaethau gofod partner yng Nghanada a'r DU i wella mesuriadau topograffi dŵr arwyneb a chefnfor a nodi sut mae cyrff dŵr yn newid dros amser.

Lluniwyd y gronfa ddata, a'r ymagwedd at gyfuno pŵer pobl a chyfrifiaduron a ddefnyddiwyd i'w chreu, dros bum mlynedd a chafwyd cyfraniadau gan sawl dwsin o ymchwilwyr, myfyrwyr a gwirfoddolwyr o Gymru, yr Unol Daleithiau, yr Iseldiroedd a Chanada.

Gan ddefnyddio data lloeren Google sydd ar gael i'r cyhoedd, llwyddodd y tîm i weld argaeau a rhwystrau eraill mewn afonydd.

Rhwng 2018 a 2021, mapiodd y tîm 30,549 o adeileddau gwneuthuredig sy'n rhwystro afonydd rhag llifo, ac amcangyfrifir bod GROD wedi cipio mwy na 90 y cant o'r rhwystrau mewn afonydd pwysig sy'n fwy na 30m o led.

Bydd y set ddata hon yn darparu gwybodaeth allweddol i ymchwilwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac mae ar gael i'r cyhoedd am ddim.

Meddai Dr Stephanie Januchowski-Hartley, un o academyddion Prifysgol Abertawe, a wnaeth helpu i ddyfeisio ac ariannu'r gronfa ddata fel rhan o'i chymrodoriaeth ymchwil gyda Sêr Cymru: “Yn ogystal â helpu i lunio data SWOT, bydd GROD yn helpu ac yn meithrin astudiaethau rhyngddisgyblaethol newydd sy'n ein helpu i ddeall yn well sut mae'r adeileddau hyn yn newid ac yn effeithio ar hydroleg ac ecoleg ein systemau dyfrol.”

Ariannwyd y gwaith ym Mhrifysgol Gogledd Carolina drwy waith Dr Tamlin Pavelsky fel Arweinydd Gwyddor Hydroleg yr Unol Daleithiau. Meddai Dr Pavelsky: “Mae'r gronfa ddata hon yn wahanol i'r cronfeydd data eraill sy'n ymwneud ag argaeau gan ei bod yn fyd-eang.” 

“Mae'n ymwneud yn uniongyrchol ag afonydd pwysig ac yn cynnwys argaeau sy'n creu cronfeydd dŵr a llawer o adeileddau eraill sy'n effeithio ar lif heb gronni dŵr ar raddfeydd sylweddol.”

Mae lansio'r set ddata, a ddylai fod ar gael i'w defnyddio yn ystod y flwyddyn nesaf, wedi cyd-daro â phapur ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn Water Resources Research. Dyma ganfyddiadau allweddol y papur:

  • Argaeau isel, sef coredau, oedd y rhwystrau mwyaf cyffredin, wedi'u dilyn gan argaeau.
  • Dim ond 42 y cant o'r afonydd a astudiwyd oedd yn cynnwys rhwystr dibwys, sef llai nag un argae, cored neu loc fesul 1,000 cilomedr o hyd afon.
  • Mae GROD yn cynnwys 8,864 o argaeau, sef nifer llawer mwy na'r hyn a gofnodwyd mewn setiau data byd-eang eraill yn y gorffennol.

Meddai Dr Xiao Yang, o Brifysgol Gogledd Carolina, a fu'n arwain yr ymchwil: “Mae datblygu GROD yn dangos y gallu i ddefnyddio'r platfformau cwmwl diweddaraf er mwyn hwyluso gwaith mapio ar y cyd yn effeithlon, gan ddarparu gwybodaeth fyd-eang gyson am effaith pobl ar ein hamgylchedd y byddai'n heriol cael gafael arni fel arall drwy lunio cronfeydd data presennol neu ddibynnu ar algorithmau awtomataidd.”

Bydd Global Dam Watch (GDW), menter gydweithredol ryngwladol rhwng ymchwilwyr sy'n frwd dros ddeall costau a manteision argaeau i'n byd, yn cynnal GROD ochr yn ochr â chronfeydd data eang eraill sy'n ymwneud ag isadeiledd afonydd.

Rhannu'r stori