Ymchwil fyd-eang i effaith ymateb llywodraethau i Covid-19 ar bobl ddiamddiffyn

Mae academyddion o Brifysgol Abertawe'n cyfrannu at astudiaeth ryngwladol sy'n archwilio effaith ymatebion llywodraethau i Covid-19 ar grwpiau diamddiffyn. 

Mae COVINFORM yn un o 23 o brosiectau ymchwil newydd sy'n cael cyfanswm o €128m gan y Comisiwn Ewropeaidd i fynd i'r afael â phandemig parhaus coronafeirws a'i effeithiau.

Mae'r Athro Sergei Shubin, cyfarwyddwr Canolfan Polisi Ymfudo'r Brifysgol, a'i gydweithwyr Louise Condon, sy'n athro nyrsio, a Dr Diana Beljaars yn rhan o COVINFORM, prosiect UE tair blynedd gydag 16 o sefydliadau partner o 11 o wledydd.

Ers iddo ddod i'r amlwg gyntaf ym mis Rhagfyr 2019, mae Covid-19 wedi cael effaith gymdeithasol, ymddygiadol ac economaidd fyd-eang ddigynsail. Mae ei oblygiadau'n ymestyn ymhell y tu hwnt i iechyd corfforol, gan ddylanwadu ar fywyd pob dydd a lles, iechyd meddwl, addysg, cyflogaeth a sefydlogrwydd gwleidyddol.

Sefydlwyd COVINFORM er mwyn dadansoddi'r ffordd y mae arweinwyr a chymunedau ledled y byd wedi ymateb i Covid-19, gan ganolbwyntio'n benodol ar yr effeithiau ar y bobl fwyaf diamddiffyn.

Mae gweithwyr iechyd, grwpiau risg, pobl hŷn, plant ac ymfudwyr ymhlith y bobl sy'n dioddef yn anghymesur.

Meddai'r Athro Shubin: “Ein nod yw deall effaith ymatebion cyrff iechyd cyhoeddus a llywodraethau i Covid-19 ar bobl ddiamddiffyn ac ymylol, ac archwilio'r mathau gwahanol o wendid sy'n dod i'r amlwg yn ystod y pandemig.

“Mae'r rhai sy'n llunio polisïau ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn cydnabod yn unfrydol fod yr argyfwng wedi cael effaith anghymesur ar y grwpiau hyn. Hyd yn oed mewn gwledydd lle cafwyd ymatebion datblygedig, mae'r argyfwng a'i oblygiadau'n peryglu lles grwpiau cymdeithasol a oedd eisoes yn wynebu bygythiad i'w bywoliaeth.”

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae'r doreth o wybodaeth ffug a damcaniaethau cynllwyn sydd ar gael ar-lein wedi ychwanegu at yr angen i gyfathrebu'n effeithiol yn ystod y pandemig.

Ychwanegodd yr Athro Condon: “Gall gwybodaeth ffug ledaenu'n gyflym mewn cymunedau a thrwy gyfryngau cymdeithasol – gan arwain at ddiffyg ffydd yn negeseuon swyddogol llywodraethau a chyngor gweithwyr iechyd proffesiynol.”

Prifysgol Abertawe yw unig gynrychiolydd Cymru yn y cydweithrediad, lle mae arbenigwyr o amrywiaeth o sefydliadau'n rhannu eu gwybodaeth er mwyn darparu dull amlddisgyblaethol o ymdrin â'r mater.

Mae'r partneriaid eraill yn cynnwys prifysgolion, ymarferwyr a sefydliadau ymchwil yn ogystal â chynrychiolwyr diwydiant. Maent yn hanu o Awstria, Gwlad Belg, yr Almaen, Gwlad Groeg, Iwerddon, Israel, yr Eidal, Portiwgal, Rwmania, Sbaen a Sweden.

Mae'r prosiect yn defnyddio damcaniaethau croestoriadedd a dadansoddiadau systemau cymhleth o ymatebion llywodraethau, cyrff iechyd cyhoeddus a chymunedau, yn ogystal â gwybodaeth a gohebiaeth. Caiff arferion addawol eu gwerthuso drwy astudiaethau achos sy'n cwmpasu disgyblaethau amrywiol a phoblogaethau diamddiffyn.

Mae nodau COVINFORM yn cynnwys:

  • gwella gwytnwch, lles ac iechyd meddwl y boblogaeth, gweithwyr rheng flaen a grwpiau diamddiffyn, a gwella anghydraddoldebau iechyd yn ystod clefydau pandemig ac yn eu sgil;
  • cyfrannu at feithrin dealltwriaeth well o effaith, effeithiolrwydd a pharodrwydd cyrff iechyd cyhoeddus a'u hymatebion
  • paratoi asesiadau cyfannol o effeithiau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yr argyfwng a'r ymatebion iddo;
  • cynyddu parodrwydd cyfannol cyrff iechyd cyhoeddus wrth ymateb i epidemigion ar hyn o bryd ac yn y dyfodol;
  • rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau iechyd ar gyfer ymyriadau iechyd cyhoeddus eraill.

Bydd y prosiect hefyd yn darparu cyfarwyddyd ac argymhellion ar gyfer polisïau mwy cynhwysol sy'n ystyried anghenion grwpiau gwahanol, yn ogystal â rhoi cyfle i aelodau o grwpiau diamddiffyn ddweud eu dweud.

Bydd y partneriaid hefyd yn creu storfa llawn gwybodaeth am Covid-19, gan ddod ag arbenigwyr a sefydliadau rheoli trychinebau a diogelwch sifil ynghyd ac integreiddio arbenigedd ac adnoddau ynghylch Covid-19.

Mwy o wybodaeth am brosiect COVINFORM

Rhannu'r stori