Gwnaeth y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, agor Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM) yn swyddogol heddiw (dydd Gwener, 26 Chwefror) yn ystod seremoni rithwir.

Enwir y sefydliad ar ôl y diweddar Rhodri Morgan, a fu gynt yn Brif Weinidog Cymru ac yn Ganghellor Prifysgol Abertawe, ac a oedd yn meddu ar frwdfrydedd dros Gymru a'i le yn y byd sy'n destun ysbrydoliaeth o hyd.

Dyma'r sefydliad cyntaf o'i fath yng Nghymru a bydd yn canolbwyntio ar ddod â phobl at ei gilydd i wneud gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol, gan ymateb i gyfleoedd a heriau mwyaf hanfodol y byd, megis sut i adnewyddu, adfer ac adfywio yn effeithiol wedi'r pandemig.

Bydd timau'n gweithio i newid y byd er gwell drwy ddarganfod ac arloesi prosesau, deunyddiau, technolegau, damcaniaethau, cysyniadau, polisïau ac ymarferion a fydd yn defnyddio ymchwil a mentergarwch o'r radd flaenaf i wasanaethu pobl ledled y byd.

Dyma gymuned yn Abertawe â phwrpas pendant a chysylltiadau cynhwysol ac amrywiol yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “Mae Cymru’n ymfalchïo yn ei hanes o arwain a chefnogi gwaith ymchwil ac arloesi blaenllaw, ac mae wedi chwarae ei rhan ar lwyfan y byd yn y maes hwn. Rwy’n falch iawn o gael agor y cam nesaf er mwyn parhau â’r gwaith.

“Bydd y Sefydliad Astudiaethau Uwch newydd hwn, a gafodd ei enwi ar ôl fy rhagflaenydd, fy nghyn-bennaeth a Changhellor Prifysgol Abertawe ar un adeg, y diweddar Rhodri Morgan, yn dwyn ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol gorau’r byd ynghyd i roi sylw i’r heriau sy’n codi yn y cyfnod sydd ohoni, gan weithio ar draws meysydd polisi, technoleg, deunyddiau, prosesau a theori.”

Meddai'r Athro Matt Jones, Cyfarwyddwr a Sylfaenydd Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan: “Ar adeg pan fydd llawer o bobl wedi colli anwyliaid a dioddef tristwch a datgysylltiad oherwydd y pandemig, bydd SAUM yn cynnig goleuni a gobaith ac yn mabwysiadu'r nod neilltuol o greu byd sy’n fwy cynaliadwy, cyfiawn, creadigol, cynhwysol a llawen. Ers blynyddoedd lawer, mae Prifysgol Abertawe wedi meithrin meddylfryd rhyngddisgyblaethol o'r radd flaenaf; gan adeiladu ar y llwyfan hwn, mae SAUM yn cynnig cyfle unigryw i weithio er lles pawb. Mae gan Gymru ddiwylliant dwfn a dwys a gwerthoedd a fydd yn llywio ein gwaith wrth i ni helpu'r genedl i fod yn wlad fodern ddelfrydol sy'n gytbwys ac yn falch o'i hanes a'i threftadaeth.”

Rhannu'r stori