Yr ail garfan o ysgolheigion.

Yr ail garfan o ysgolheigion: Sara Pan Algarra, Dan Anlezark, Felicity Mulford, Abbiba Princewill ac August Dichter. 

Mae cyn-ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau Hillary Clinton wedi cyhoeddi bod Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael ei hymestyn i gynnwys pum ysgolhaig arall.

Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod seremoni raddio rithwir y garfan gyntaf o ysgolheigion Heriau Byd-eang ddydd Iau 4 Chwefror 2021, a welwyd gan yr Ysgrifennydd Clinton; yr Athro Elwen Evans CF, Deon Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton; yr Is-ganghellor, yr Athro Paul Boyle; a Jeremy Darroch, Cadeirydd Gweithredol Grŵp Sky.

Nod y rhaglen ysgoloriaethau, a lansiwyd yn 2019, yw cefnogi'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr sy'n ymrwymedig i fynd i'r afael â materion byd-eang brys, gan gynnwys amddiffyn plant ar-lein, yr argyfwng hinsawdd a seiberddiogelwch.

Dewiswyd yr ail garfan o ysgolheigion dros yr haf a rhoddwyd ysgoloriaeth ôl-raddedig un flwyddyn wedi'i hariannu'n llawn ym Mhrifysgol Abertawe i bob un ohonynt.

Dechreuodd yr ysgolheigion eu hastudiaethau ym mis Ionawr 2021, a byddant yn ymgymryd â phrosiectau i archwilio twyllwybodaeth, yr argyfwng hinsawdd, sicrhau'r hawl i bawb gael addysg, a newyn fel arf rhyfel.

Meddai'r Ysgrifennydd Clinton: "Mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar faterion brys sy'n gofyn am ddycnwch a dyfeisgarwch. Mae ein hysgolheigion Heriau Byd-eang cyntaf un sy'n graddio heddiw, a gynhaliodd eu hastudiaethau yn ystod pandemig, wedi dangos hynny ac wedi cerfio llwybr i'r rhai a fydd yn eu dilyn. Rwy'n falch iawn ein bod, diolch i Sky, yn croesawu ein hail flwyddyn o ysgolheigion Heriau Byd-eang. Gwn y bydd y profiad y maent yn ei gael drwy'r rhaglen hon yn eu harfogi a’r hyn sydd eu hangen arnynt i fynd allan a chael effaith yn eu maes. Rwyf mor falch o'r gymuned hon mae Prifysgol Abertawe yn ei chreu ac rwy'n edrych ymlaen at ei gweld yn parhau i dyfu."

Mae gan Brifysgol Abertawe gysylltiadau cryf â'r Ysgrifennydd Clinton, a gafodd ddoethuriaeth er anrhydedd gan y Brifysgol yn ystod ymweliad ag Abertawe yn 2017. Yn dilyn ei harwisgo, ailenwyd Coleg y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.

Dywedodd Jeremy Darroch, Cadeirydd Gweithredol Grŵp Sky: “Mae'n bleser gennym ymestyn y bartneriaeth â'r Ysgrifennydd Clinton a Phrifysgol Abertawe i gefnogi Ysgoloriaethau Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton am ail flwyddyn. Fel busnes cyfrifol, rydym am ysgogi newid a chreu dyfodol gwell, felly rydym yn falch o gefnogi'r genhedlaeth nesaf sy'n gweithio i greu dyfodol gwell drwy'r rhaglen hon ac sy’n gweithio i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a diogelwch ar-lein. Edrychaf ymlaen at weld gwaith yr ysgolheigion yn datblygu dros y flwyddyn nesaf.”

Meddai'r Athro Elwen Evans CF: “Rydym yn hynod ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Clinton a Sky am barhau i gefnogi'r Rhaglen Heriau Byd-eang ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â hwy ymhellach wrth i ni gynyddu ein cymuned o ysgolheigion anhygoel. Rydym i gyd yn falch dros ben o bopeth y mae ein carfan gyntaf wedi ei gyflawni ac rwy'n ffyddiog y bydd ein hysgolheigion newydd yn creu argraff yr un mor ffafriol.” 

Rhannu'r stori