Hywel Teifi Edwards

Bu’r Athro Hywel Teifi Edwards yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe am 30 mlynedd. 

Mae Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe yn galw ar fyfyrwyr sydd am astudio ar gyfer gradd ymchwil ôl-radd trwy gyfrwng y Gymraeg i wneud cais am ysgoloriaeth newydd er cof am yr Athro Hywel Teifi Edwards.

Nod Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi yw cefnogi myfyrwyr graddedig sydd am barhau â’u hastudiaethau drwy ymchwilio i un o brif feysydd Hywel Teifi, sef:

  • Hanes Cymru a’r Cymry
  • Llenyddiaeth Gymraeg
  • Yr Iaith Gymraeg
  • Gwleidyddiaeth Cymru
  • Y Cyfryngau‌ Cymreig
  • Drama Gymraeg
  • Crefydd yng Nghymru
  • Astudiaethau Diwylliannol Cymreig

Sefydlwyd Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi gyda chymorth cyfraniad ariannol gan gwmni cyfryngau Tinopolis Cymru ynghyd â chefnogwyr a chyfeillion yr Academi. Gwahoddir ceisiadau ar gyfer yr ysgoloriaeth, sy’n werth £3,000, gan unigolion sydd am gyflawni ymchwil ôl-radd cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe mewn un o’r meysydd astudio uchod.

Yn wreiddiol, bwriadwyd datgelu deiliad cyntaf yr Ysgoloriaeth Goffa yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, sir enedigol Hywel Teifi Edwards, gan nodi hefyd ganmlwyddiant Prifysgol Abertawe, lle y bu’n ddarlithydd am 30 mlynedd. Ond gan i Covid-19 darfu ar y trefniadau, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus bellach yn cael ei ddatgelu mewn digwyddiad yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol 2021.

Meddai’r darlledwr Huw Edwards: “Rydym ni fel teulu yn hynod ddiolchgar i Academi Hywel Teifi, Tinopolis Cymru a phawb sydd wedi cyfrannu at greu'r Ysgoloriaeth newydd hon er cof am fy nhad. Rwy'n siŵr y bydd yn gymorth i sicrhau parhad y meysydd a daniodd ei ddiddordeb ac y credai eu bod o'r pwys mwyaf i ni fel cenedl."

Dywedodd Cadeirydd Tinopolis Cymru, Angharad Mair: “Pleser o’r mwyaf yw cael y cyfle i gefnogi Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi, a hynny am sawl rheswm. Fel gŵyr pawb, roedd cyfraniad yr Athro Hywel Teifi Edwards i ysgolheictod a diwylliant Cymru yn aruthrol, ac mae mor bwysig i Gymru bod modd annog a chefnogi myfyrwyr ôl-radd i ddilyn ôl ei draed. Yn ogystal, fel un o drigolion Llangennech dafliad carreg o swyddfeydd Tinopolis yn Llanelli, roedd Hywel Teifi yn gyfrannydd cyson a hael i’n rhaglenni ni, ac mae ein rhodd yn ffordd fechan i gofio amdano ac i ddweud diolch.”

Dywedodd Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: “Mae’r Academi yn enw Hywel Teifi wedi cyfrannu’n helaeth i ysgolheictod cyfrwng Cymraeg dros y ddegawd ddiwethaf gan hybu doniau ymchwil a chreadigol ein staff a’n myfyrwyr yn barhaus. Rydym yn hynod o ddiolchgar i gwmni Tinopolis ac i holl gefnogwyr Academi Hywel Teifi am eu haelioni a’u cymorth i sicrhau parhad i allu’r Academi i gefnogi gwaith a chyfraniadau disglair i’r dyfodol.”

I ymgeisio am yr ysgoloriaeth, gofynnir i unigolion e-bostio llythyr cais, CV ac amlinelliad o’u maes ymchwil at Gyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon, erbyn 30 Mehefin 2021. Bydd panel yn ystyried y ceisiadau cyn dyfarnu’r ysgoloriaeth. Mae manylion yr ysgoloriaeth, gan gynnwys yr amodau a’r telerau, ar gael ar wefan Academi Hywel Teifi.

Rhannu'r stori