Mae’r llun yn dangos cetrisen arlliwio a wnaed drwy ailgylchu cynhyrchion.

Mae rhaglen ASTUTE 2020, sy’n cael ei hariannu gan yr UE, ac sy’n rhan o Brifysgol Abertawe, wedi darparu cefnogaeth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (RD&I) diwydiannol i helpu Brother Industries (U.K) Ltd. i gynhyrchu cetrisen inc gyntaf brand Brother a gynhyrchwyd o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a adferwyd o gynnyrch Diwedd Oes.

Mae Brother Industries (U.K.) Ltd., sydd â chanolfan yn Wrecsam, wedi cynhyrchu eu cetris inc “newydd” cyntaf brand Brother lle mae’r fframiau wedi’u mowldio 100% o ddeunydd a ailgylchwyd.

Bu ASTUTE 2020 yn defnyddio academyddion o’r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe a thîm o arbenigwyr technegol hynod gymwysedig i gefnogi tîm Brother Industries (U.K.) Ltd. wrth iddyn nhw ymchwilio i anawsterau technegol defnyddio deunyddiau a ailgylchwyd.

Seiliwyd y gwaith ymchwil ar systemau ailgylchu dolen gaeedig. Yn achos ailgylchu dolen gaeedig, mae Brother Industries (U.K.) Ltd. yn derbyn cynnyrch yn ôl ar ddiwedd eu hoes ac yn eu gweithgynhyrchu o’r newydd neu’n eu hailgylchu i greu cynnyrch newydd.

Oherwydd eu harbenigedd helaeth mewn deunyddiau lefel uwch, bu ASTUTE 2020 yn canolbwyntio’u hymchwil ar effeithiau cylchoedd lluosog o ailgylchu plastig, uwchgylchu’r deunydd, effaith cymysgu gwahanol ddeunyddiau oddi wrth amrywiaeth o weithgynhyrchwyr a rheoli ansawdd o un swp i’r nesaf.

Ar ôl cynnal profion ansawdd a chynhyrchu, mae’r fframiau cetris a grewyd 100% o ddeunydd wedi’i ailgylchu bellach yn y broses gynhyrchu lawn.

Dywedodd Julian Cooper, Rheolwr Ansawdd/Amgylcheddol Brother Industries (U.K) Ltd.:

Mae Brother Industries (U.K) Ltd., cyflenwr blaenllaw ym maes atebion technoleg, yn mabwysiadu egwyddorion ‘Economi Gylchol’, ac yn rhoi’r busnes ar y blaen fel gweithgynhyrchydd cynaliadwy, egwyddorol o gydrannau plastig, a dod yn Ganolfan Technoleg Ailgylchu (RTC) ar gyfer Grŵp Brother ar lefel fyd-eang.

Rydym ni’n ymroddedig i leiafu ein heffaith ar yr amgylchedd, darparu’r amodau gwaith gorau i’n cyflogeion, a gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r cymunedau lle rydym ni’n gweithio.

Mae cydweithio â thîm ASTUTE 2020 ym Mhrifysgol Abertawe fel rhan o’n trefniant diwydiant ac academia cyntaf wedi rhoi hwb i broffil Canolfan Technoleg Ailgylchu Brother, yn ogystal â strategaeth hirdymor y cwmni ar gyfer gweithredu yng Ngogledd Cymru.”

Dywedodd yr Athro Johann Sienz, Cyfarwyddwr Rhaglen ASTUTE 2020

 “Bydd y trefniant cydweithio hynod lwyddiannus hwn rhwng ASTUTE 2020 a Brother Industries (U.K) Ltd. yn cael effaith uniongyrchol ar yr amgylchedd, gan leihau’r defnydd o ddeunyddiau crai, arbed ynni a lleihau allyriadau CO2 o weithgynhyrchu a thirlenwi. Bydd hynny’n cyfrannu at dargedau’r Llywodraeth, Cytundeb Paris a Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) y Cenhedloedd Unedig.”

Mae rhaglen ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch), sy’n cefnogi cwmnïau gweithgynhyrchu ledled Cymru, wedi cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a’r Sefydliadau Addysg Uwch sy’n rhan ohoni.  

 

Rhannu'r stori