Mae’r llun yn dangos pils a photel ar gyfer pils.

Awgryma ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe bod system fonitro meddyginiaethau syml dan arweiniad nyrs neu ofalwr yn gallu helpu i leihau salwch yn ymwneud â meddyginiaeth ar gyfer pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl – ac mae’r broses ond yn cymryd ychydig funudau ar gyfer pob claf.

Mae’r papur ymchwil, a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn PLOS ONE yn edrych ar sut mae’r system fonitro, a elwir yn Proffil Monitro Meddyginiaethau (ADRe-p), yn gallu helpu nyrsys a gofalwyr i nodi camreoli meddyginiaethau neu adweithiau niweidiol i gyffuriau mewn cleifion sydd wedi eu rhagnodi â meddyginiaethau lluosog, a gall helpu i osgoi niwed sy'n gysylltiedig â meddyginiaeth a gwella rhagnodi.

Meddai’r Athro Sue Jordan, wnaeth arwain yr astudiaeth: “Mae'r broblem a gyflwynir gan raddfa a chymhlethdod niwed anfwriadol o ddefnyddio a chamddefnyddio meddyginiaethau yn real iawn, a adlewyrchir yn Nhrydedd Her Diogelwch Cleifion Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) gyda'r nod o leihau niwed y gellir ei osgoi sy'n gysylltiedig â meddyginiaeth 50% gan blwyddyn nesaf.

“Cynhaliwyd ein hastudiaeth mewn tri chartref gofal cofrestredig annibynnol yn y sector preifat . Roedd pob un o’r cartrefi’n dda iawn, ac fe wnaethom weld gofal nyrsio arbennig. Er hynny, fe wnaeth ADRe helpu i wella rheolaeth meddyginiaethau. Nododd nyrsys neu ofalwyr sy'n defnyddio'r system fonitro ADRe niwed posibl sy'n gysylltiedig â meddyginiaeth ac, yn dilyn adolygiad gan feddygon neu fferyllwyr, cyflwynwyd trefnau meddyginiaeth newydd.

Roedd y canlyniadau ar gyfer yr 19 o gleifion dan sylw yn golygu: -

  • nid oedd poen bellach ar 6 preswylydd
  • nid oedd 3 bellach yn profi confylsiynau
  • nid oedd 3 bellach yn profi ymddygiad ymosodol
  • cafodd 2 eu hanhawsterau llyncu wedi eu trin
  • nid oedd 4 yn adrodd ar ddiffyg cwsg bellach
  • cafodd 1 gydag anhawster anadlu ei drin
  • addaswyd presgripsiynau ffisigau gweithio i 2 i leihau dolur rhydd
  • daeth y cwympiadau i ben ar gyfer 2 breswylydd (o 4 y nodwyd eu bod yn cwympo ac o 5 yn gallu sefyll).

Canfu'r tîm ymchwil hefyd mai ychydig o broblemau newydd a gododd, na chafwyd dirywiad clinigol, ac nid oedd unrhyw niwed yn gysylltiedig â'r ymyrraeth.

Meddai’r Athro Jordan: “Yr hyn a oedd yn wirioneddol bwysig am yr astudiaeth hon oedd ei bod yn dangos mai dim ond 10 munud o amser nyrsys neu ofalwyr, ynghyd â 10 munud ar gyfer adolygiad fferyllydd, a wnaeth wahaniaeth enfawr i lesiant y claf. Roedd defnyddio ADRe nid yn unig yn gwella iechyd preswylwyr, ond hefyd wedi newid trefnau presgripsiwn i sicrhau'r buddion clinigol mwyaf posibl i gleifion, sydd yn y pen draw yn helpu i optimeiddio adnoddau gofal iechyd.”

Rhannu'r stori