Llun: Trustees of the Natural History Museum, London

Cobra: Llun - Trustees of the Natural History Museum, Llundain, a Callum Mair

Gwnaeth gallu rhai cobraod i boeri eu gwenwyn, sy'n unigryw ymysg nadroedd, ddatblygu fel mecanwaith amddiffynnol i achosi poen yn hytrach nag i ddal ysglyfaethau, yn ôl ymchwil newydd gan dîm sy'n cynnwys ymchwilydd o Brifysgol Abertawe.

Mae'r tîm hefyd yn awgrymu bod yr ymddygiad hwn wedi datblygu fel modd o amddiffyn yn erbyn ymosodiadau gan gyndeidiau pobl fodern o bosib.

Cyfrannodd Dr Kevin Arbuckle, o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, at y gwaith ymchwil – dan arweiniad Canolfan Ymchwil Brathiadau Nadroedd Ysgol Meddygaeth Drofannol Lerpwl (LSTM) – drwy chwarae rôl allweddol yn yr elfennau sy'n ymwneud ag esblygiad.

Gwnaeth y tîm fwrw golwg dros dri grŵp gwahanol o gobraod poerllyd. Daethpwyd i'r casgliad bod pob grŵp wedi cynhyrchu mwy o docsinau PLA2 yn annibynnol ar ei gilydd. Yn ddiddorol, nid yw'r tocsinau hyn yn achosi poen eu hunain, ond pan fyddant yn cyfuno â'r tocsinau tri bys a geir yng ngwenwyn cobraod, mae'r poen a achosir yn cynyddu'n fawr.

Drwy ddatblygu gwenwyn mwy poenus, gall cobraod poerllyd amddiffyn eu hunain yn fwy effeithiol yn erbyn ysglyfaethwyr neu ymosodwyr drwy boeri gwenwyn i lygaid sensitif, gan achosi poen, enyniad a hyd yn oed dallineb.

Mae'r ffaith bod pob llinach annibynnol wedi datblygu'r un ateb amddiffynnol yn enghraifft o'r hyn a adwaenir fel esblygiad cydgyfeiriol, sy'n golygu bod esblygiadau wedi dilyn yr un llwybr dro ar ôl tro.

Meddai Dr Kevin Arbuckle o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe:

“Er bod nadroedd yn defnyddio brathiadau gwenwynig er mwyn amddiffyn eu hunain yn erbyn pobl, nid yw nadroedd yn gyffredinol wedi datblygu gwenwynau at ddibenion amddiffynnol.

Fodd bynnag, mae'r ffaith bod dau grŵp o gobra yn ogystal â pherthynas agos yn poeri gwenwyn yn eithriad: mae'r tri grŵp hyn o nadroedd wedi datblygu'r ymddygiad hwn at ddibenion amddiffynnol yn unig.

Gwnaethom ddangos yn union sut mae gwenwyn y nadroedd hyn hefyd wedi esblygu i achosi poen pan gaiff ei chwistrellu i lygaid ysglyfaethwr. Mae ein gwaith ymchwil hefyd yn cynnig y posibilrwydd cyffrous bod pobl ddiflanedig wedi bod yn ddylanwadol wrth ysgogi esblygiad cobraod poerllyd.”

Meddai Dr Taline Kazandjian o LSTM, cyd-awdur arweiniol y papur:

“Mae esblygiad addasiadau o bwys sylfaenol ym maes bioleg er mwyn deall y prosesau sy'n galluogi organebau i oroesi yn eu cilfachau ecolegol. Mae systemau gwenwyn yn fodelau naturiol gwych ar gyfer deall sail foleciwlaidd addasiadau. Nid ystyrir bod amddiffyn yn bwysau detholus cryf ar nadroedd i ddatblygu gwenwyn, ond yn yr achos hwn rydym yn dangos yn glir y gall amddiffyn fod yn ddylanwad pwerus ar nadroedd i ddatblygu gwenwyn.”

Ond pa bwysau detholus a ysgogodd nadroedd i boeri gwenwyn amddiffynnol yn y lle cyntaf?

Dyma esboniad yr Athro Nick Casewell o LSTM, arweinydd yr astudiaeth:

“Mae'n debygol bod hominins peniog deudroed wedi peri bygythiad mawr i nadroedd, ac rydym yn dangos yn yr astudiaeth hon fod amseru esblygiadol tarddiad poeri gwenwyn yn Affrica yn gyntaf, ac yn ddiweddarach yn Asia, yn cyd-fynd yn fras â dargyfeiriad ein cyndeidiau o fod yn tsimpansîaid ac yn bonobos yn Affrica, cyn ymfudo'n ddiweddarach i Asia. Er bod angen rhagor o ddata er mwyn profi'r ddamcaniaeth hon yn drylwyr, mae'n ddiddorol meddwl bod ein cyndeidiau wedi dylanwadu o bosib ar darddiad yr arf cemegol amddiffynnol hwn mewn nadroedd.”

Cyhoeddwyd y gwaith ymchwil yn y cyfnodolyn Science.

Rhannu'r stori