Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithdai newid yn yr hinsawdd a drefnwyd gan y prosiect Lleisiau Bach Little Voices.

Unodd plant ysgol gynradd ar draws Cymru i ddysgu rhagor am newid yn yr hinsawdd a beth sy'n cael ei wneud i'w oresgyn.

Yn yr Uwchgynhadledd Ieuenctid yn Abertawe, cwrddodd y bobl ifanc ag ymchwilwyr a chynrychiolwyr o sefydliadau sy'n mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithdai arbennig yn dangos sut felly. 

Roedd y rhain yn cynnwys gweithgareddau monitro aer, sut i ddefnyddio dŵr yn gall, defnyddio plastig, trafnidiaeth gynaliadwy a bioleg y môr. 

Rhoddwyd hefyd cyfle i'r disgyblion helpu'r prosiect a arweinir gan Brifysgol Abertawe, Seagrass, drwy lenwi bagiau tywod a gaiff eu defnyddio i dyfu hadau i helpu i adfer dolydd morwellt arfordirol hanfodol. 

Trefnwyd yr Uwchgynhadledd gan Academi Morgan y Brifysgol a phrosiect Lleisiau Bach Little Voices, sy'n rhan o'r Arsyllfa Hawliau Dynol Plant ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor, ac sy'n ymroddedig i sicrhau y caiff hawliau dynol plant eu parchu, eu diogelu a'u gwireddu. 

Dywedodd yr Athro Jane Williams, rheolwr y prosiect a Chyfarwyddwr dros dro'r Academi, fod yr Uwchgynhadledd yn adeiladu ar lwyddiant digwyddiad blaenorol a gynhaliwyd ym Mangor yn gynharach eleni. 

Meddai: "Yn Lleisiau Bach Little Voices rydym wedi gwrando ar farnau plant ac yn gwybod faint maent yn poeni am faterion pwysig megis newid yn yr hinsawdd. 

“Mae'r disgyblion eu hunain yn cynnig syniadau ar gyfer maniffesto dros newid a fydd yn bwydo i sgyrsiau penderfynwyr ar lefel leol a chenedlaethol. Rydym am sicrhau eu hawl i gael eu clywed ac i eraill wrando arnynt, a rhoi hyn ar waith.” 

Mae Lleisiau Bach Little Voices yn brosiect a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn cefnogi plant o dan 12 oed i ddeall hawliau dynol plant a phobl ifanc, i ddewis y materion y maent am eu hymchwilio ac i'w helpu i gynnal yr ymchwil, gan gyrraedd casgliadau a hyrwyddo'r newidiadau y maent am eu gweld. 

Rhannu'r stori