Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae gwyddonwyr o'r grŵp ymchwil Oncoleg Gynaecolegol Bioleg Atgenhedlu yn dadansoddi celloedd canser y groth yng Nghanolfan NanoIechyd Prifysgol Abertawe.

Rhoddwyd patent gan yr Unol Daleithiau i wyddonwyr o Brifysgol Abertawe ar gyfer therapi arloesol newydd yn sgil eu gwaith caled i frwydro yn erbyn canser endometriaidd.

Datblygodd yr Athro Deya Gonzalez a'r Athro Steve Conlan, o grŵp ymchwil Oncoleg Gynaecolegol Bioleg Atgenhedlu ddull o drin canser gynacolegol, gan obeithio lleihau sgîl-effeithiau i gleifion. 

Mae eu gwaith ar ddarganfod a datblygiad cyn-glinigol y therapiwtig newydd hwn a dargedir wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar yn Journal for Immunotherapy of Cancer. 

Canser y groth yw'r canser atgenhedlu mwyaf cyffredin ymhlith menywod, a'r wythfed achos mwyaf cyffredin o farwolaethau oherwydd canser yn y DU. Mae Prifysgol Abertawe wedi gweithio'n agos gyda Byrddau Iechyd Bae Abertawe a Chwm Taf, Canolfan Ymchwil Canser Cymru, Sefydliad Ymchwil Celloedd Bonyn Canser Ewropeaidd, GE Healthcare, biodechnoleg cyffuriau gwrthgyrff cyfunedig (ADC) ac Axis Bio i ddod o hyd i driniaethau newydd ar gyfer y cyflwr hwn. 

Trwy gydweithio, darganfu'r tîm fod gormod o brotein, o'r enw RAGE, mewn celloedd canser y groth, a bod lefelau uwch o RAGE yn gysylltiedig â lefelau goroesi is ymhlith cleifion. O ganlyniad, datblygodd y tîm driniaeth newydd sy'n targedu’r protein RAGE gan ddefnyddio cyffur gwrthgyrff cyfunedig (ADC). 

Dosbarth pwerus o therapiwteg mewn oncoleg feddygol yw cyffuriau gwrthgyrff cyfunedig , lle caiff gwrthgyrff sy'n targedu proteinau penodol mewn canserau, eu cyplysu â chyfryngau sytotocsig. Yn yr achos hwn, mae'r gwrthgorff wedi'i ddatblygu'n benodol i lynu at y protein RAGE. 

Ar ôl i'r gwrthgorff lynu at RAGE, bydd yn mynd i mewn i'r gell sydd â chanser ac yn rhyddhau sytotocsig a fydd yn lladd y gell.Nid oes gan gelloedd iach yn y corff lefelau uchel o'r protein RAGE, ac felly nid yw'r driniaeth yn effeithio arnynt. 

Mae'r tîm yn gobeithio y gallai'r canfyddiadau newydd arwain at opsiynau o driniaeth newydd ar gyfer cleifion sydd â chanser y groth. 

Meddai'r Athro Gonzales, y prif ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae ymdrechion yr holl bartneriaid sy'n rhan o'r ymchwil hon at ei gilydd wedi arwain at ddatblygu cyfrwng therapiwtig newydd sydd â'r potensial i drin canser endometiriaidd yn effeithiol heb lawer o sgîl-effeithiau. Erbyn hyn rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu'r cyffuriau gwrthgyrff cyfunedig RAGE, gan obeithio ymgysylltu â chleifion y mae angen dybryd am opsiwn newydd o driniaeth arnynt."  

Mae'r gwaith a wnaed ar RAGE wedi bod yn rhan o brosiect ymchwil mwy o'r enw Cluster for Epigenetics and ADC Therapeutics (CEAT). Nod CEAT yw datblygu grŵp o gyffuriau epigenetig newydd a chyffuriau gwrthgyrff cyfunedig gan ddefnyddio dulliau technolegol i fynd i'r afael â datblygiad a dilyniant canser gynaecolegol. 

Dywedodd yr Athro Conlan, Pennaeth Menter ac Arloesi yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a Chyfarwyddwr Strategol CEAT: "Mae datblygiad therapiwteg newydd a datblygedig, er enghraifft ein cyffur gwrthgyrff cyfunedig RAGE, yn tynnu sylw at bwysigrwydd partneriaethau cydweithredol diwydiannol, academaidd a chyda'r GIG megis CEAT. 

"Gyda'n partneriaid, ein nod parhaus yw datblygu hyn ymhellach ynghyd â chyffuriau gwrthgyrff cyfunedig, ac rydym bob amser yn awyddus i ddod o hyd i bartneriaethau cydweithredol diwydiannol er mwyn cyflwyno cryfderau ychwanegol i'n datblygiadau therapiwtig sydd yn yr arfaeth. At hynny, mae gweithio gydag AgorIP ym Mhrifysgol Abertawe i sicrhau ein heiddo deallusol drwy batent yr Unol Daleithiau, a chreu strategaeth fasnacheiddio, wedi bod yn bwysig iawn."

 

Rhannu'r stori