Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Cranc gwyrdd cyffredin Ewropeaidd

Mae crancod y glannau'n cario arfilod sy'n fygythiad mawr i stociau pysgod cregyn. Mewn astudiaeth newydd, mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe wedi defnyddio sawl dull darganfod gwahanol, gan gynnwys tynnu DNA o ddŵr môr, i greu'r darlun cynhwysfawr cyntaf o'r broblem.

Mae'r cranc gwyrdd cyffredin Ewropeaidd (yn y llun) yn frodorol i'r DU, Iwerddon a gogledd-ddwyrain Môr yr Iwerydd. Mae'n rhannu cynefin gyda llawer o rywogaethau sy'n bwysig iawn yn fasnachol, megis y cranc bwytadwy a langwstîn.

Fodd bynnag, mae cranc y glannau'n rhywogaeth ymledol iawn hefyd o ganlyniad i'w allu i oroesi mewn amgylcheddau gwahanol. Bellach, mae'r rhywogaeth weld cyrraedd UDA, De Affrica ac Awstralia, ynghyd â lleoedd eraill.

At ei gilydd, mae'r ffactorau hyn yn golygu y gallai cranc y glannau fod yn fygythiad i'r diwydiant pysgod cregyn o ran trosglwyddo clefydau. Mae pysgota am grancod bwytadwy yn y DU ac Iwerddon yn unig yn ddiwydiant gwerth £50 miliwn.

O ganlyniad, mae datblygu dealltwriaeth well o'r clefydau sydd gan grancod arfordirol yn hanfodol, a dyma lle mae Ymchwil Prifysgol Abertawe yn berthnasol.

Archwiliodd y tîm, o brosiect Bluefish yn adran Fiowyddorau'r Brifysgol, dros 1,200 o grancod a gasglwyd dros gyfnod o flwyddyn o ddau leoliad, Pier y Mwmbwls a doc Tywysog Cymru ym Mae Abertawe.

Roddent yn chwilio am dystiolaeth o un arfilyn sy'n enwedig o niweidiol, o'r enw Hematodinium, i ddarganfod pa mor helaeth a pha mor wael oedd yr haint ar y crancod a gasglwyd ar gyfer yr astudiaeth.

Defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau profi, gan ddadansoddi samplau o waed, meinwe o'r crancod drwy histoleg ac archwilio eu DNA drwy ddefnyddio techneg o'r enw PCR (polymerase chain reaction), sy'n eu galluogi i wneud sawl copi o ddarn penodol o DNA.

Defnyddiwyd DNA amgylcheddol hefyd, a dyma dechneg gymharol newydd sy'n tynnu DNA o ddŵr môr yn yr ardal amgylchynol. Golyga hyn fod modd chwilio am dystiolaeth o'r arfilyn cyn iddo heintio'r cranc, gan ei gwneud hi'n bosib creu darlun o gylch bywyd cyflawn yr arfilyn.

Canfu'r ymchwilwyr:

  • Fod gan 13.6% o'r crancod a brofwyd yr arfilyn Hematodinium
  • Bod y gyfradd yn 17.6% i grancod gwryw ac yn 9.3% i grancod benywaidd
  • Cofnodwyd uchafbwynt ar gyfer heintio yn y gwanwyn
  • Datgelodd samplau o ddŵr môr dystiolaeth o gamau cynnar yn natblygiad yr arfilyn nad oeddent wedi'u canfod eto yn y crancod.

Tanlinellodd yr ymchwilwyr fod eu gwaith yn dangos bod dulliau datgelu lluosog yn hanfodol er mwyn adeiladu darlun cywir o glefydau. Yn benodol, roedd dadansoddiad DNA amgylcheddol yn hanfodol wrth ddeall ac olrhain cylch bywyd cyfan yr arfilyn.

Meddai Dr Charlotte Eve Davies o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, sy'n Swyddog Gwyddonol ar brosiect Bluefish:

“Gall cychwyniad clefyd ddinistrio stociau o bysgod cregyn a bywoliaeth pobl yn y sector.

O ganlyniad, mae'n bwysig ein bod ni'n deall rôl cranc yr arfordir wrth fod yn anifail letyol i arfilod ac wrth gario clefyd.

Mae'r ymagwedd systematig a ddefnyddiwyd gennym, sy'n defnyddio dulliau darganfod gwahanol, yn hollbwysig i gael y darlun gorau posib o'r broblem. Yn benodol, mae defnyddio DNA amgylcheddol yn ddefnyddiol wrth nodi camau cyn-letyol posib yng nghylch bywyd yr arfilyn."

Cyhoeddwyd yr ymchwil yng nghyfnodolyn mynediad agored “Parasites and Vectors”.  

Ariannwyd Prosiect Bluefish gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020, sef rhaglen drawsffiniol sy'n buddsoddi yn lles economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cyffredinol Iwerddon a Chymru.

Rhannu'r stori