Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Chwaraewr Abertawe yn sgorio cais

Bydd y Varsity Cymru yn dychwelyd i Abertawe y flwyddyn nesaf, gyda’r gêm rygbi fawr yn cael ei chwarae ddydd Mercher 29 Ebrill.

Mae Varsity yn ŵyl chwaraeon ac mae'n gweld myfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn brwydro mewn dros 30 o gampau gan gynnwys gemau rygbi dynion a menywod.

Bydd digwyddiad y flwyddyn nesaf hefyd yn gweld Abertawe yn cynnal Varsity yn yr un flwyddyn ag y bydd y Brifysgol yn dathlu ei chanmlwyddiant.

Mae Varsity wedi bod yn uchafbwynt blynyddol yng nghalendr Prifysgolion Abertawe a Chaerdydd ers iddo ddechrau ym 1997, gan fynd o nerth i nerth bob blwyddyn ers hynny.

Yn dilyn diwrnod llwyddiannus yng Nghaerdydd yn 2019, bydd Varsity yn dychwelyd i Abertawe yn 2020 gyda Chaerdydd yn ddeiliaid presennol y Darian a Chwpan Varsity.

Cyhoeddir manylion y tocynnau maes o law.

Dywedodd Ffion Davies, swyddog chwaraeon Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: “Rydym ni’n gyffrous iawn i gynnal y diwrnod chwaraeon mwyaf yng nghalendr y myfyrwyr yma yn Abertawe, yn enwedig yn ystod ein blwyddyn canmlwyddiant!

Boed yn cystadlu neu’n cefnogi, ‘dwi methu aros i weld pawb yn uno fel un i ddathlu beth sydd gan chwaraeon i’w gynnig yma yn Abertawe!”

Meddai Jude Pickett, is-lywydd chwaraeon a llywydd yr Undeb Athletau ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rwy’n gyffrous iawn i fod yn rhan o’r Varsity Cymru fwyaf a gorau hyd yma. Mae paratoadau eisoes ar y gweill ar gyfer y digwyddiad anhygoel hwn sy'n galluogi clybiau i arddangos eu talent ar ac oddi ar y cae.

“Rwy’n falch iawn o gefnogi Tîm Caerdydd a gobeithio eu gwylio’n dod â’r cwpan a’r darian yn ôl adref i Gaerdydd unwaith eto. Dyma'r un digwyddiad yng nghalendr y myfyrwyr nad ydych chi am ei golli."

Rhannu'r stori