Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi bod Mr Bleddyn Phillips wedi'i benodi'n Gadeirydd newydd y Cyngor.

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi bod Bleddyn Phillips wedi'i benodi'n Gadeirydd newydd y Cyngor.

Penodwyd Mr Phillips, a ymunodd â chorff llywodraethu’r Brifysgol ym mis Mai 2017, yn Gadeirydd am dymor o bedair blynedd yn lle Syr Roger Jones, ar ôl i’w dymor yn ei swydd ddirwyn i ben ym mis Medi 2019.

Dywedodd Mr Phillips: “Mae’n anrhydedd mawr cael fy mhenodi’n Gadeirydd Cyngor Prifysgol Abertawe. Fel siaradwr Cymraeg, gyda gwreiddiau cryf yn Llanelli a Gŵyr, a gyda’r ddau riant wedi astudio yn Abertawe, rwyf wedi teimlo cysylltiad â’r Brifysgol ers amser maith ac wedi bod yn falch iawn o wasanaethu ar y Cyngor.

“Rwyf am gydnabod y cyfraniad a wnaeth Syr Roger Jones i’r Brifysgol dros bron i 14 mlynedd ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda’r Brifysgol, a’i gwasanaethu, wrth iddi ddathlu ei chanmlwyddiant yn 2020 a thu hwnt.”

Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Bydd yn fraint cael gweithio gyda Bleddyn wrth inni ddatblygu’n cynllun strategol newydd ac edrych ymlaen at ddechrau ein hail ganrif yn 2020.”

Mae Mr Phillips yn gyfreithiwr wrth ei alwedigaeth, yn gyn-gyfarwyddwr masnachol mewn cwmnïau olew BP a Total, ac yn ddiweddarach yn Bennaeth Byd-eang y practis Olew a Nwy yn y cwmni cyfreithiol rhyngwladol, Clifford Chance LLP. Mae'n Gyfarwyddwr Clwb Rygbi Llanelli Scarlets ac roedd yn ymddiriedolwr Canolfan Mileniwm Cymru rhwng 2012-2018.

Y Cyngor yw’r corff llywodraethu sy’n gyfrifol am gyllid, eiddo, buddsoddiadau a busnes cyffredinol y Brifysgol, ac am bennu cyfeiriad strategol cyffredinol y sefydliad. Mae’r Cyngor yn gyfrifol am sicrhau ansawdd a safonau darpariaeth academaidd y Brifysgol a chyflawni ei ddyletswyddau yn unol â Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru.

Rhannu'r stori