Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Luke Pearson, Gareth Healey, Karen Hood, Prif Gonswl Iwerddon i Gymru Denise Hanrahan, Is-ganghellor Prof Paul Boyle, Shareen Doak a Steve Conlan.

Mae Prif Gonswl Iwerddon i Gymru wedi ymweld ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ar gyfer briffiad arbennig ar y Rhwydwaith Arloesedd Gwyddor Bywyd Uwch Celtaidd (CALIN).

Croesawyd Denise Harahan i'r Brifysgol gan yr Is-ganghellor Paul Boyle; cyfarwyddwyr CALIN, Shareen Doak a Steve Conlan; a'r dirprwy gyfarwyddwr, Gareth Healey.

Wedi'i sefydlu yn 2016, mae CALIN yn weithrediad rhwng Cymru ac Iwerddon dan arweiniad Abertawe i gefnogi ymchwil a datblygu ymhlith mentrau gwyddor bywyd bach a chanolig yng ngorllewin Cymru ac yn nwyrain a de Iwerddon. Mae'n un o ddau weithrediad rhwng Cymru ac Iwerddon sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe.

Hyd yn hyn, mae chwe phrifysgol bartner CALIN - Coleg Prifysgol Dulyn, Sefydliad Tyndall, Prifysgol Corc, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon Galway, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe - wedi cynorthwyo mwy na 100 o gwmnïau ac wedi sefydlu 30 o brosiectau tymor byr a thymor canolig ar y cyd. Mae'r fenter ar draws ffiniau yn cysylltu prifysgol yng Nghymru a phrifysgol yn Iwerddon â busnes bach neu ganolig i yrru datblygiadau yn y gwyddorau bywyd.

Mae cymorth CALIN wedi arwain at fwy na €5 miliwn o fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu o fusnesau, gan greu ugain swydd newydd.

Meddai'r Athro Boyle: "Iwerddon yw partner economaidd Ewropeaidd agosaf a phwysicaf Cymru. Mae cyfleoedd cyffrous i'n prifysgolion ehangu eu cydweithrediadau y tu hwnt i brosiectau arloesol megis CALIN yn y dyfodol.

"Trwy'r rhaglen Ewch yn Fyd-eang, mae Abertawe'n ymrwymedig i symudedd myfyrwyr, ac mae Iwerddon yn gyrchfan gwych i'n myfyrwyr. Yn y dyfodol, gwelaf y posibilrwydd o sefydlu rhaglenni gradd ar y cyd â'n cefndryd Celtaidd."

Dywedodd Ms Harahan: "Mae Cymru ac Iwerddon yn rhannu perthynas arbennig iawn, ac adlewyrchwyd hyn ym mhenderfyniad Llywodraeth Iwerddon i ailagor ein Conswl yng Nghymru yn gynharach eleni. Mae gan y cysylltiad rhwng ein gwledydd wreiddiau hanesyddol dwfn, ac mae'n ffynnu drwy nifer o gysylltiadau cyffrous a bywiog ar draws y gwyddorau, y celfyddydau, busnes a gwleidyddiaeth. 

"Roedd yn bleser ymweld â Phrifysgol Abertawe, i weld yn bersonol y gwaith a wneir mewn cyfleusterau uwch dechnoleg. Mae arloesi a buddsoddi yn y gwyddorau bywyd yn flaenoriaeth i'r ddwy lywodraeth, ac mae gan rwydwaith CALIN, a ariennir drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, botensial go iawn i bobl, busnesau a phrifysgolion Cymru ac Iwerddon."

Ychwanegodd Dr Healey: "Mae CALIN wedi sefydlu partneriaethau rhwng Cymru ac Iwerddon a fydd yn cryfhau'r sector gwyddor bywyd yn fawr yn y ddwy wlad.

"Mae ein gwaith yn helpu busnesau bach i gynyddu eu gallu ymchwil a datblygu ac yn cyflawni buddion go iawn megis swyddi, mewnfuddsoddi a chynhyrchion gwyddor bywyd newydd."

Ydych chi’n BBaCh sy’n rhan o sector y gwyddorau bywyd yng Nghymru neu Iwerddon? Os hoffech chi fod yn rhan o’r nifer gynyddol o fusnesau sydd wedi cael budd o arbenigedd rhwydwaith CALIN, byddem yn croesawu eich diddordeb. E-bostiwch

Rhannu'r stori