Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Myfyriwr yn llwyddo i ennill gradd Meistr ar ôl goresgyn problemau iechyd a newidiodd ei fywyd

Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe a frwydrodd yn ôl ar ôl colli ei olwg a chael trawsblaniad aren yn dathlu ar ôl graddio â gradd Meistr.

Cofrestrwyd Giles Turnbull – sydd wedi dioddef o ddiabetes ers ei arddegau cynnar – yn ddall yn 2008 o ganlyniad i retinopathi diabetig.

Cafodd drawsblaniad aren bum mlynedd yn ddiweddarach, ond dychwelodd i fyd addysg i astudio gradd Meistr mewn ysgrifennu creadigol a pharhau â’i frwdfrydedd dros farddoniaeth.

Fodd bynnag, nid yw Giles yn ddieithr i Brifysgol Abertawe, ac mae’r dyn 46 mlwydd oed eisoes wedi cwblhau ei radd israddedig mewn cemeg yn y Brifysgol rhwng 1991 a 1994.

“Fi oedd y cyntaf yn fy nheulu i fynd i’r Brifysgol,” meddai.  “Doedd dim syniad gyda fi beth roeddwn i am ei wneud fel gyrfa bryd hynny, ond ar ôl graddio ym 1994, gweithiais i’r DVLA cyn symud i Lundain i weithio i’r Adran Drafnidiaeth.”

Ar ôl cyfnod yn y ddinas, symudodd Giles i Lundain a dechreuodd sylwi ar newidiadau yn 2004.

“Doeddwn i’n methu gweld o fy llygaid chwith i ddechrau,” dywedodd.  “Ar yr adeg honno, roeddwn i’n gallu gweld yn ddigon da o hyd i yrru, ond gallwn i ddisgyn i lawr y grisiau ac oddi ar balmentydd oherwydd nad oeddwn i’n sylwi bod cwymp.

“Yna gwnes i gyfarfod â merch o America a symud i Atlanta i fod gyda hi, ond yn anffodus, yr un oedd y stori gyda fy llygaid dde a chefais fy nghofrestru’n ddall yn ôl y gyfraith yn 2008.

“Rydych chi’n dysgu i wrando ar bethau a thalu sylw i’r gweadau rydych yn eu teimlo gyda’ch bysedd neu o dan eich traed.

“Gwnaeth yr Adran Lafur fy nghyfeirio at hyfforddiant adfer golwg am flwyddyn, lle dysgais sut i ddefnyddio ffon wen, sut i labelu pethau a darllen Braille. Roedd yn ardderchog.”

Ond nid dyna ddiwedd y problemau i Giles – yn 2012, fe’i rhoddwyd ar ddialysis yn yr Unol Daleithiau cyn dychwelyd adref i’r DU a chael trawsblaniad aren flwyddyn yn ddiweddarach.

Ond roedd yn benderfynol o archwilio ei hoffter o ysgrifennu a barddoniaeth, a dychwelodd i Brifysgol Abertawe a oedd yn annwyl iddo i ddechrau ei radd Meistr.

“Rwyf o hyd wedi bod ag angerdd mewn barddoniaeth” dywedodd Giles, sy’n dod o Harrogate yn wreiddiol.  “Dechreuais ysgrifennu yn ystod fy arholiadau Safon Uwch oherwydd fy mod i’n hoffi’r ferch hon, ond roeddwn i’n ysgrifennu am y ffaith nad oedd hi’n fy hoffi i!

“Mae ysgrifennu’n rhoi’r cyfle imi hel atgofion rwy’n cofio amdanynt pan oeddwn i’n gallu gweld, ac roeddwn i’n meddwl y byddai dychwelyd i’r brifysgol yn rhoi’r cyfle i mi roi cynnig ar ffurfiau eraill o ysgrifennu.”

Ychwanegodd: “Mae Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe wedi bod yn anhepgor i’m llwyddiant y tro hwn.  Cynhyrchwyd yr holl lyfrau yr oedd eu hangen arnaf mewn fformat electronig, fel bod fy nghyfrifiadur yn eu darllen yn uchel i mi.

“Mae’r Swyddfa Anableddau hefyd wedi bod yn ofalus i sicrhau fy mod i’n ymwybodol o newidiadau neu waith sy’n cael eu cynnal ar draws y campws o ran hygyrchedd a cherdded gyda ffon.”

Ar ôl cwblhau’r cylch cyfan yn y Brifysgol fel myfyriwr israddedig a bellach fel myfyriwr ôl-raddedig, mae Giles bellach yn edrych ymlaen at yr hyn a ddaw yn y dyfodol.

Mae hefyd ganddo neges bwerus i unrhyw un sydd o bosibl yn ystyried dychwelyd i’r Brifysgol ni waeth pa anabledd sydd ganddynt.

“Des i nôl i fagu fy hyder unwaith eto,” meddai Giles.  “Mae bod yn ôl ar y campws lle mae gennyf gynifer o atgofion melys fel myfyriwr oedd yn gallu gweld, wedi bod mor hyfryd.

“Nid yw’n hawdd, ac mae lefel annibyniaeth pawb yn amrywio pan rydych yn ddall.  Gall rhai pobl fod yn hyderus iawn yn mynd o fan i fan, ond mae eraill fel fi, sydd wedi colli eu golwg yng nghanol eu bywydau, a allai ei chael hi’n anodd o bosibl.

“Rwy’n credu mai’r peth pwysig yw peidio â bod ofn gofyn am gymorth.  Mae cymaint o gymorth ar gael, a gallwch fanteisio mwy ar eich bywyd os ydych chi’n gofyn.”

Rhannu'r stori