Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Logo Gwobr Dylan Thomas

I ddathlu pymtheng mlwyddiant Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, mae ceidwaid y Wobr, Prifysgol Abertawe, wedi cyhoeddi am y tro cyntaf y bydd pum beirniad gwadd yn ymuno â'r Cadeirydd yr Athro Dai Smith CBE a'r Athro Kurt Heinzelman i ddewis enillydd 2020 gwobr fwya'r byd i awduron ifanc.

Mae'r beirniaid gwadd yn garfan o bobl â dawn lenyddol anhygoel, gan gynnwys yr awdur arobryn a sylfaenydd Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur Namita Gokhale, yr awdur ac enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2011 Lucy Caldwell, yr awdur, y bardd a'r beirniad Prydeinig-Ghanaidd Bridget Minamore, yr awdur a chyflwynydd adnabyddus BBC Radio 3: The Verb Ian McMillan a'r newyddiadurwr celfyddydau a diwylliant llwyddiannus Max Liu.

Dywedodd yr Athro John Spurr, Prifysgol Abertawe: “Mae hon yn flwyddyn arbennig iawn i’r Wobr, wrth i Brifysgol Abertawe ddathlu ei chanmlwyddiant ac i’r Wobr ddathlu ei phymthegfed blwyddyn, ac rydyn ni'n falch iawn o gael ffigurau llenyddol mor nodedig yn ymuno â'r panel beirniadu. Edrychwn ymlaen unwaith eto at gael gweld rhestr hir gyffrous a rhestr fer fydd yn cynrychioli'r gorau o waith ysgrifennu pobl ifanc ledled y byd.”

Y panel o feirniaid fydd â'r dasg o ddewis y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn Saesneg ar draws genres, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a drama, wedi'i ysgrifennu gan awdur 39 oed neu iau.

Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys: Guy Gunaratne am In Our Mad and Furious City (2019), Kayo Chingonyi am Kumukanda (2018), Fiona McFarlane am The High Places (2017), Max Porter am Grief is the Thing With Feathers (2016), Joshua Ferris am To Rise Again at a Decent Hour (2014), Claire Vaye Watkins am Battleborn (2013), Maggie Shipstead am Seating Arrangements (2012), Lucy Caldwell am The Meeting Point (2011), Elyse Fenton am Clamor (2010), Nam Le am The Boat (2008) a Rachel Tresize am Fresh Apples (2006).

Cyhoeddir rhestr hir y Wobr yn fyw ar 24 Ionawr yng Ngŵyl Lenyddiaeth fawreddog Jaipur yn India, a'r rhestr fer ar 7 Ebrill, cyn cynnal Seremoni'r Enillydd yn Abertawe ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, 14 Mai.

Rhannu'r stori