Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Menyw ifanc yn ysgrifennu wrth ddesg

Mae lleihau Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, atal camddefnyddio alcohol a sylweddau, a gwella cyfleoedd addysg a hyfforddiant yn rhai ffyrdd allweddol o helpu i atal hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc Cymru.

Mae adolygiad newydd, a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe, yn trafod marwolaethau'r holl blant a phobl ifanc yng Nghymru a fu farw drwy hunanladdiad rhwng 2013 a 2017. Nodwyd nifer o themâu a ddylai fod yn dargedau ar gyfer atal y trychinebau ofnadwy hyn yn y dyfodol.

Ceir tystiolaeth o bob rhan o'r DU o gynnydd yn nifer y marwolaethau drwy hunanladdiad ymhlith pobl ifanc ers 2010. Gan gyfuno nifer o ffynonellau, ceisiodd yr adolygiad nodi'r ffactorau sy'n gysylltiedig â hunanladdiad ymhlith pobl ifanc 10-18 oed yng Nghymru.

Mae'r adolygiad yn trafod 33 o achosion o blant a phobl ifanc a gymerodd eu bywydau eu hunain. Roedd rhai o'r materion a oedd yn gysylltiedig â'r hunanladdiadau hyn yn cynnwys camddefnyddio sylweddau; tlodi; cam-drin ac ymosod rhywiol; profedigaeth; cywilydd; anawsterau mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant; a diffyg ymwybyddiaeth ynghylch hunan-niwed.

Mae'r adolygiad yn nodi mai anaml y ceir un rheswm pam y mae plentyn neu berson ifanc yn cymryd ei fywyd ei hun. Mae fel arfer oherwydd amrywiaeth o ffactorau risg, amgylchiadau a phrofiadau niweidiol. Er gwaethaf hyn, mae'n bosibl atal hunanladdiad.

Mae'r adolygiad yn nodi chwe chyfle allweddol i atal hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc. Mae'r rhain fel a ganlyn:

  1. Atal camddefnyddio alcohol a sylweddau. Gan gynnwys camau gweithredu parhaus i gyfyngu ar fynediad plant a phobl ifanc i alcohol, ynghyd â gweithredu canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn llawn i atal camddefnyddio sylweddau.
  2. Lliniaru Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Gan gynnwys ymyriadau parhaus i blant sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, fel cam-drin rhywiol, ymosodiadau rhywiol neu drais domestig. Dylai hyn hefyd gynnwys mwy o ymgysylltu â byrddau diogelu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd amddiffyn plant rhag effeithiau trais domestig a cham-drin rhywiol i atal hunanladdiad a hunan-niwed.
  3. Rheoli hunan-niwed. Gan gynnwys gweithredu canllawiau NICE ar gyfer rheoli hunan-niwed sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc yn llawn.
  4. Codi oedran cymryd rhan mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Gan gynnwys ymchwilio i ddulliau cymorth i sicrhau bod plant a phobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed yn cael eu cefnogi mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant; gan gynnwys hyfforddiant seiliedig ar waith.
  5. Rhannu gwybodaeth yn well. Gan gynnwys ymchwilio i sut y gall gwybodaeth gael ei rhannu rhwng lleoliadau addysg nad ydynt yn rhai'r wladwriaeth, fel ysgolion preifat, a gwasanaethau'r wladwriaeth.
  6. Gwell gwybodaeth am hunan-niwed a ffactorau risg eraill ar gyfer hunanladdiad ac ymwybyddiaeth o hyn. Gan gynnwys archwilio ffyrdd seiliedig ar dystiolaeth o gynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o hunan-niwed a ffactorau risg eraill ar gyfer hunanladdiad, cynllunio diogelwch, cymorth i geisio gwasanaethau a chael mynediad iddynt, yn ogystal â mynd i'r afael â stigma.

Meddai'r Athro Ann John, Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Pryd bynnag y bydd rhywun yn cymryd ei fywyd ei hun, mae'n drychineb enfawr sy'n achosi trallod i deulu, ffrindiau, gweithwyr proffesiynol, yn ogystal â'r gymuned ehangach. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd yn blentyn neu berson ifanc sy'n marw drwy hunanladdiad.

“Fodd bynnag, nid yw hunanladdiad yn anochel ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth atal rhagor o farwolaethau. Mae'r adolygiad hwn yn cynnig fframwaith rhagorol i ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n arwain at hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc. Mae angen i ni fynd i’r afael â materion fel alcohol a chamddefnyddio sylweddau ymhlith pobl ifanc a sicrhau bod pobl ifanc sy'n cael eu cam-drin, sy'n dioddef ymosodiad rhywiol neu mewn profedigaeth yn gallu cael mynediad i'r therapïau siarad y gwyddom eu bod yn gallu eu cefnogi.”

Os ydych chi neu unrhyw un rydych yn ei adnabod yn cael meddyliau am hunanladdiad, ffoniwch y Samariaid ar 116 123 neu jo@samaritans.org; neu ewch i'w gwefan i gael gwybodaeth ychwanegol.

Rhannu'r stori