Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Cyfleoedd uwch dechnoleg i ysbrydoli disgyblion

Efallai bod y gwyliau drosodd, ond diolch i Technocamps, bydd disgyblion ysgol yn dysgu sgiliau newydd ac yn cael profiadau newydd yn eu tymor nesaf.

Cyflwynodd Technocamps - rhaglen ymestyn allan arloesol Prifysgol Abertawe, a gynlluniwyd i roi cipolwg i ddisgyblion ar fyd cyfrifiadureg - amrywiaeth o weithgareddau i ddisgyblion ar draws Cymru yn ystod gwyliau'r haf. Roedd y rhain yn cynnwys rhaglennu, datblygu ap, datblygu gemau a roboteg.

Cystadleuaeth Roboteg 2019

Thema Cystadleuaeth Roboteg eleni oedd Tech Trychineb, a'r her oedd dylunio a chreu robot a allai ddarparu cymorth mewn ardaloedd sydd wedi dioddef trychineb. Roedd hyn yn cynnwys ardaloedd rhyfel ac ardaloedd a ddiffeithiwyd gan drychinebau naturiol megis corwyntoedd a tswnamïau.

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Cymerodd ddisgyblion ran mewn amrywiaeth o weithgareddau yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst. Roedd y pensetiau rhith-wirionedd yn boblogaidd ymhlith plant ac oedolion, yn ogystal â rhaglennu robotiaid a chodio.

Ysgol Haf Cyfoethogi STEM gyda Sefydliad Yellowsands

Cydweithiodd Technocamps â Sefydliad Yellowsands, sy'n helpu i wella potensial disgyblion i ennill graddau A, B ac C TGAU er mwyn gadael yr ysgol ag o leiaf pum gradd A-C, gan gynnwys mathemateg, gwyddoniaeth a iaith Saesneg.

Meddai Emily, disgybl o Faglan: "Rwy'n hynod ddiolchgar am gael cwrdd â grŵp mor anhygoel o bobl. Rwyf wedi gwthio fy hun i'r terfyn a chyflawni pethau na feddyliais erioed y gallwn wneud. Cawsom gyfle i greu ac archwilio sgiliau newydd a datblygu hen sgiliau."

Ysgol Haf GiST Cymru

Cymerodd 27 o ferched ran yn Ysgol Haf GiST Cymru, a gynlluniwyd i annog menywod ifanc tuag at yrfa mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg neu fathemateg (pynciau STEM), drwy weithgareddau yn cynnwys codio, gwneud llysnafedd, a hyd yn oed tynnu DNA o fanana.

Dywedodd Julie Walters, rheolwr prosiect yn Technocamps: "Rydym yn sicr wedi cyfiawnhau ein his-bennawd yn Technocamps ar draws Cymru yr haf hwn. Rydym wedi dangos creadigrwydd yn y gystadleuaeth roboteg, wedi cael hwyl wrth ddefnyddio pensetiau rhith-wirionedd yn yr Eisteddfod ac wedi ysbrydoli llawer o bobl ifanc drwy amrywiaeth o ysgolion haf."

Rhannu'r stori