Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae Banc Data SAIL Prifysgol Abertawe yn chwarae rôl allweddol mewn consortiwm £4.6m sy’n gweithredu ledled y Deyrnas Unedig ar wella bywydau miliynau o bobl sydd â salwch anadlol.

Mae’r Banc Data SAIL yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn un o bartneriaid y consortiwm £4.6m BREATHE – Canolfan Ymchwil Data Iechyd ar gyfer Iechyd Anadlol, sy’n gweithredu ledled y Deyrnas Unedig. 

Mae BREATHE yn un o saith canolfan ddata newydd sy’n cael eu cyflwyno ledled y Deyrnas Unedig heddiw (01 Hydref 2019) gan Ymchwil Data Iechyd y Deyrnas Unedig, a bydd yn defnyddio data i hybu datblygiad triniaethau newydd ac arloesedd o ran darparu gofal ar gyfer cyflyrau fel asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a heintiau anadlol, a fydd o fudd i’r GIG, cleifion a diwydiant. 

Defnyddir Banc Data SAIL i reoli data BREATHE, a bydd yn caniatáu i gymuned ymchwil ehangach y Deyrnas Unedig gael mynediad o bell at y data y mae’n ei ddal yn ddiogel ar gyfer ymchwil anadlol i helpu i wella bywydau pobl sy’n byw gyda chyflyrau anadlol yn y Deyrnas Unedig. 

Dywedodd yr Athro David Ford, Cyfarwyddwr Banc Data SAIL yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Phrif Swyddog Data ar gyfer BREATHE: “Mae gan y Deyrnas Unedig y setiau data cyfoethocaf ar salwch anadlol yn y byd, ond maen nhw’n ddarniog, wedi’u strwythuro’n anghyson ac yn anodd cael atynt. 

“Gan weithio gydag arbenigwyr ym maes ymchwil anadlol ledled y Deyrnas Unedig, byddwn yn newid cyflymder a graddfa’r ymchwil sy’n bosibl yn sylweddol, trwy wneud adnoddau data perthnasol y Deyrnas Unedig yn gyflymach, yn haws ac yn fwy diogel i’w canfod a’u defnyddio, gan ddefnyddio systemau sefydledig a thîm Banc Data SAIL. 

“Bydd Banc Data SAIL yn darparu gwasanaeth unswydd a fydd yn caniatáu i nifer o wahanol randdeiliaid wneud defnydd dibynadwy o ddata anadlol wedi’i guradu er budd cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, sy’n golygu y bydd y Deyrnas Unedig yn arwain y ffordd o ran arloesedd wedi’i sbarduno gan ddata.” 

Dywedodd yr Athro Aziz Sheikh o Brifysgol Caeredin a Chyfarwyddwr BREATHE: “Rwy’n falch iawn y bydd BREATHE yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe i drawsnewid iechyd anadlol y Deyrnas Unedig.  

“Rwyf wedi edmygu Banc Data rhagorol SAIL ers tro, ac rwy’n falch iawn y byddwn yn gallu defnyddio ei arbenigedd sylweddol wrth reoli data cleifion yn ddiogel ac yn gyfrifol er budd y cyhoedd.” 

Dewisir aelodau BREATHE gan banel annibynnol sy’n cynnwys cynrychiolwyr cleifion a’r cyhoedd, clinigwyr, academyddion a diwydiant yn dilyn cystadleuaeth agored. 

Mae BREATHE yn un o’r Canolfannau Ymchwil Data Iechyd, sef buddsoddiad £37 miliwn dros bedair blynedd gan Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol (ISCF) y Llywodraeth, a arweinir gan Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig. 

Y nod yw creu rhwydwaith ledled y Deyrnas Unedig ar gyfer defnyddio data sy’n gysylltiedig ag iechyd yn ddiogel ac yn gyfrifol ar raddfa fawr. 

Dywedodd yr Athro Andrew Morris, Cyfarwyddwr Ymchwil Data Iechyd y Deyrnas Unedig: “Mae’r Deyrnas Unedig yn gartref i rai o’r ymchwilwyr a’r arloeswyr mwyaf blaenllaw yn y byd sydd wedi’i chael hi’n anodd cael mynediad at ddata ar raddfa fawr am iechyd pobl yn y gorffennol. Bydd creu’r canolfannau hyn a’r seilwaith diogel ehangach yn rhoi cyfle, am y tro cyntaf, i ymchwilwyr ddefnyddio data ar y raddfa briodol i ymchwilio i’r ffactorau genetig, ffordd o fyw a chymdeithasol sydd wrth wraidd llawer o glefydau cyffredin cyfarwydd ac amlygu tueddiadau data dadlennol a allai helpu i ddod o hyd i wellhad neu driniaethau.  

“Gyda phwyslais eglur ar ddiogelwch data, diogelwch a chynnwys y cyhoedd, mae hwn yn gam nesaf pwysig a chyffrous yng nghynnig data iechyd y Deyrnas Unedig ac yn ychwanegu at y cryfderau arbennig sydd gennym ar draws ein gwasanaeth iechyd, ein prifysgolion a’n diwydiant.”   

Dywedodd Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yr Athro Keith Lloyd: “Rydym yn falch iawn bod Abertawe wedi cael ei dewis i chwarae rôl allweddol mewn datblygiad mor bwysig a chyffrous. 

“Mae buddion posibl y canolfannau hyn yn cynnwys diagnosis cynharach, datblygu triniaethau mwy effeithiol a rheoli’r GIG yn fwy effeithlon. Gall hyn i gyd fod o gymorth mawr wrth helpu ein cleifion i fwynhau bywydau hirach ac iachach.” 

Mae consortiwm BREATHE yn cynnwys: Coleg Gwyddoniaeth, Technoleg a Meddygaeth Imperial, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Nottingham, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerlŷr, Prifysgol y Frenhines Mary, Llundain, Coleg y Brenin, Llundain, Asthma UK, Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, Grŵp Comisiynu Clinigol y GIG Waltham Forest (ar ran One London LHCRE), Awdurdod Llundain Fwyaf, Respiri Ltd, StormID, Tiny Medical Apps, Novartis Pharmaceuticals UK, BreatheOx, GE Healthcare, Finnamore Partners ac Optimum Patient Care. 

Rhannu'r stori