Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Dr Paul Albert (chwith) a Dr Yue Ren (de), Arweinwyr y Dyfodol

Mae dau ymchwilydd, mathemategydd ac arbenigwr llosgfynyddoedd, wedi ennill cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, a fydd yn dod â nhw i Brifysgol Abertawe i gynyddu eu hymchwil.

Cyhoeddwyd y cymrodoriaethau gan Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol.

Mae Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol yn gronfa £900 miliwn sy'n helpu i sefydlu gyrfaoedd arweinwyr ymchwil ac arloesi o safon fyd-eang ar draws busnesau a byd academaidd y Deyrnas Gyfunol.

Bydd Dr Paul Albert yn dod i Abertawe o Brifysgol Rhydychen. Yn Abertawe, bydd yn ymchwilio cwymp lludw o ffrwydradau folcanig, a all gael effaith ddinistriol ar iechyd pobl ac ar amaethyddiaeth ac isadeiledd. Pan ffrwydrodd llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ yn 2010, er enghraifft, ataliodd y cwmwl lludw ar draffig awyr.

Bydd Dr Albert yn ymchwilio dyddodion lludw o ffrwydradau llosgfynyddoedd yn y gorffennol sydd wedi'u claddu mewn gwaddodion morol. Bydd hyn yn helpu gwyddonwyr i wneud amcangyfrifon gwell ynghylch ffrwydradau yn y dyfodol ac effaith debygol unrhyw gwymp lludw, gan helpu i leihau'r risg i'r 800 miliwn o bobl ledled y byd sy'n byw o fewn 100km i losgfynydd byw.

Bydd Dr Yue Ren yn ymuno ag Abertawe o Brifysgol Leipzig yn yr Almaen, lle mae wedi bod yn gweithio yn Sefydliad Max Planck ar gyfer Mathemateg yn y Gwyddorau. Ei arbenigedd yw maes mathemategol newydd geometreg drofannol gyfrifiadol.

Mae eisoes ystod eang o gymwysiadau i geometreg drofannol. Yn y Deyrnas Gyfunol, mae Banc Lloegr wedi bod yn ei defnyddio ers yr argyfwng ariannol er mwyn dyrannu arian yn system ariannol y Deyrnas Gyfunol. Mae Ffrainc yn ei defnyddio er mwyn optimeiddio cydbwyso llwyth rhwydweithiau ffonau symudol ac i ddadansoddi perfformiad canolfannau alwadau. Bydd ymchwil Dr Ren yn Abertawe yn archwilio sut y gellir ymestyn yr ymagwedd i'w defnyddio mewn diwydiant a'r gwyddorau cymhwysol.

Meddai'r Athro Matt Jones, Pennaeth Coleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, lle bydd Dr Albert a Dr Ren yn gweithio:

"Rydym wrth ein boddau bod Paul a Yue yn ymuno â ni. Mae'r Coleg Gwyddoniaeth yn canolbwyntio ar ymchwil o safon fyd-eang ag effaith a diben. Mae'r dyfarniadau hyn yn cydnabod doniau ein cydweithwyr newydd, ac ar ben hynny natur fywiog, adnoddau da ac ansawdd uchel yr amgylchedd ymchwil yn y Brifysgol."

Mae Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) yn gorff newydd, y'i nod yw sicrhau bod y Deyrnas Gyfunol yn cynnal ei safle yn arwain ymchwil ac arloesi yn fyd-eang. Yn weithredol ar draws y Deyrnas Gyfunol gyfan â chyllideb o fwy na £7 biliwn, daw UKRI â'r saith Cyngor Ymchwil, Innovate UK a Research England ynghyd.

Rhannu'r stori