Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Llun o logo Meningitis Now

Mae Prifysgol Abertawe wedi cadw ei Marc Cydnabyddiaeth Ymwybyddiaeth Llid yr Ymennydd am ei hymrwymiad parhaus i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr a staff o'r haint a allai fod yn angheuol.

 

Golyga hyn y gall y Brifysgol barhau i ddangos ei Marc Cydnabyddiaeth a'i thystysgrif i ddangos ei bod yn Brifysgol Llid yr Ymennydd Ymwybodol am y ddwy flwyddyn academaidd nesaf.

Mae llid yr ymennydd yn effeithio ar y pilenni amddiffynnol o gwmpas yr ymennydd a madruddyn y cefn. Er ei bod yn gymharol brin, mae myfyrwyr – yn enwedig myfyrwyr blwyddyn cyntaf – wrth risg uwch o glefydau meningococaidd, sef yr achos mwyaf cyffredin o lid yr ymennydd bacteriol.

Meddai Asad Rahman, Pennaeth BywydCampws ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'r Marc Cydnabyddiaeth Ymwybyddiaeth Llid yr Ymennydd yn arddangos ymrwymiad y Brifysgol i iechyd a lles myfyrwyr a staff.

"O'n hymgyrchoedd cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith ein myfyrwyr newydd ac sy'n dychwelyd i'n gwaith y tu ôl i'r llenni ar gefnogi myfyrwyr ag achosion o lid yr ymennydd, diolchaf i'r holl staff a myfyrwyr sy'n parhau i helpu i ledaenu'r neges ynghylch difrifoldeb llid yr ymennydd mewn prifysgol, a phwysigrwydd cael brechiad."

Cyflwynwyd y Marc Cydnabyddiaeth Ymwybyddiaeth Llid yr Ymennydd (MARM) gan yr elusen Meningitis Now i gynyddu ymwybyddiaeth o lid yr ymennydd, i hyrwyddo cael brechiad ac i helpu i baratoi ar gyfer llid yr ymennydd neu glefyd meningococaidd ar y campws.

Dywedodd Dr Tom Nutt, Prif Swyddog Gweithredol Meningitis Now: "Rydym yn hapus iawn i adnewyddu Marc Cydnabyddiaeth Ymwybyddiaeth Llid yr Ymennydd Prifysgol Abertawe, sy'n arddangos gwaith ardderchog ein prifysgolion achrededig MARM i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith yr ail grŵp risg uchaf, sef myfyrwyr.

"Gobeithio y bydd y gwaith y mae Abertawe'n ei wneud yn golygu bod myfyrwyr yn y Brifysgol wedi'u hamddiffyn yn well rhag peryglon llid yr ymennydd, yn ogystal â gallu adnabod yr arwyddion a'r symptomau'n well, ac yn gwybod beth i'w wneud os ydynt yn credu bod gan rywun y clefyd.

"Diolch, Abertawe – daliwch ati â'r gwaith da!”

 

Rhannu'r stori