Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Car Bloodhound yn Hakskeenpan

Mae tîm Record Cyflymder ar Dir Bloodhound (LSR) wedi datgelu'r car sy'n ceisio hawlio record cyflymder ar dir newydd y byd y flwyddyn nesaf, a welwyd am y tro cyntaf gyda manyleb anialwch cyflawn wrth iddo ddechrau ei raglen profi cyflymder uchel yn anialwch Hakskeenpan, Penrhyn Gogleddol, De Affrica.

Dyma'r tro cyntaf i'r car gael ei weld gydag olwynion alwminiwm solet wedi'u peiriannu'n fanwl, a wnaed yn arbennig i wrthsefyll straen deithio ar gyflymder uwchsonig. Am ei sesiwn brawf gyntaf, caiff yr olwynion eu profi ar 500+ mya (800 km/yr awr).

Bydd y profion cyflymder uchel yn gweld car LSR Bloodhound yn saethu ar hyd trac rasio anialwch Hakskeenpan am y tro cyntaf, gan arddangos peirianneg Prydeinig i gynulleidfa fyd-eang. Prif amcan tîm Bloodhound yw ymgysylltu ac ysbrydoli pobl o bob oedran drwy gymhwyso gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg mwyaf eithafol.

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn allweddol i lwyddiant y prosiect hyd yn hyn, diolch i gyfraniad ei harbenigedd ym maes ymchwil Deinameg Hylifau Gyfrifiadurol (CFD), a bu ymchwilwyr o'r Coleg Peirianneg yn gweithio fel rhan o dîm dylunio aerodynameg y car uwchsonig.

Un o amcanion allweddol y rhaglen profi cyflymder uchel, yw gwerthuso sut mae'r car yn ymddwyn wrth arafu a stopio o nifer o gyflymderau targed, gan gyflymu i 500 mya a thu hwnt (800km/yr awr)

Dim ond pan fydd y peirianwyr a'r gyrrwr, Andy Green, yn fodlon eu bod yn deall gallu llusgo a stopio'r car y byddant yn gwthio i'r proffil rhedeg nesaf, gan adeiladu cyflymder ym mhob ras fesul 50 mya (80km/yr awr).

Bydd tîm LSR Bloodhound yn archwilio faint o lusgo y mae'r car yn ei greu mewn nifer o sefyllfaoedd ac ar gyflymderau gwahanol, gan ddefnyddio breciau'r olwynion, un neu ddau o'r parasiwtiau llusgo, a chyda'r breciau awyr enfawr wedi'u cloi yn eu lle.

Bydd data o 192 o synwyryddion gwasgedd ar y car yn cael eu monitro a'u cymharu yn erbyn modelau CFD a ragfynegir i sicrhau eu bod yn cyd-daro. Bydd peirianwyr Bloodhound yn gweithio gyda Dr Ben Evans, Athro Cysylltiol mewn Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe, a'i fyfyriwr PhD, Jack Townsend, i wirio'r data a fydd yn nodi swm y llusgo a brofwyd gan y car bob tro. Mae'r data hwn yn hollbwysig er mwyn pennu maint y roced a fydd yn cael ei gosod ar y car er mwyn i'r ymgais nodi record cyflymder ar dir y byd newydd ymhen 12 i 18 mis.

Dywedodd Dr Ben Evans: “Ar ôl dros ddegawd o ymchwil a datblygu a dylunio dwys rydym o’r diwedd wedi cyrraedd y pwynt lle rydyn ni’n cael gwybod sut y bydd Bloodhound yn perfformio ar gyflymder uchel. Bydd y profion cyflym sy'n digwydd yn Hakskeenpan trwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd yn darparu'r data hanfodol sy'n angenrheidiol i ddilysu'r modelau cyfrifiadurol aerodynamig yr ydym wedi bod yn eu rhedeg yn y Coleg Peirianneg. Os aiff popeth yn ôl y cynllun, yna bydd gennym yr hyder yn nyluniad y car y bydd angen i ni fynd am ymgais uwch nag erioed o fewn y 18 mis nesaf. Mae'n gyfnod cyffrous dros ben!”

Dilynwch Bloodhound LSR ar Twitter am ddiweddariadau cyson o'r treialon. 

Rhannu'r stori