Coronafeirws: y diweddaraf
Nyrs yn siarad â'r arddegau a'r rhiant

Mae merched yng Nghymru yn llawer mwy tebygol o fynd i'r ysbyty ar ôl hunan-niweidio na bechgyn, yn ôl ymchwil newydd a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe.

Cyhoeddwyd yr astudiaeth - y gyntaf o'i math - ar-lein yn Archives of Disease in Childhood, ac mae'n datgelu bod yr anghyfartalwch hwn rhwng y rhyweddau yn arbennig o amlwg ymhlith pobl ifanc 10-15 oed sydd wedi hunan-niweidio.

Mae'r rhan fwyaf o ddadansoddiadau o hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc wedi'u cyfyngu i dderbyniadau i'r ysbyty neu ddata gofal sylfaenol. 

Roedd yr ymchwil hwn, fodd bynnag, a arweiniwyd gan yr Athro Ann John o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn cynnwys pawb a dderbyniodd gofal iechyd, ac yn edrych ar ddata meddygon teulu, Adrannau Gofal Brys a chlinigau cleifion allanol, yn ogystal â derbyniadau i'r ysbyty, o 2003 tan 2015 yng Nghymru. Trwy ddefnyddio'r platfform Data Iechyd Meddwl Glasoed a grëwyd gan yr Athro Ann John i alluogi ymchwil iechyd meddwl plant a'r glasoed a chronfa ddata Academi Cynhwysiant a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe, cronfa ddata sy'n ymroddedig i ddarparu dull diogel y gellir ymddiried ynddo o harneisio data ar raddfa'r boblogaeth.

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys 937,697 o bobl ifanc, 10 i 24 oed, a defnyddiodd 15,739 ohonynt wasanaethau gofal iechyd am hunan-niwed. 

Dangosodd y canfyddiadau:

  • Pobl ifanc o ardaloedd difreintiedig oedd fwyaf wrth risg - roedd cyfraddau hunan-niweidio fwy na dwbl y cyfraddau yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig;
  • Er bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn defnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol, cynyddodd y nifer o bobl ifanc a dderbyniodd gofal brys cyn cael eu derbyn i'r ysbyty;
  • Roedd y cyfraddau hunan-niweidio uchaf ymhlith pobl 15 i 19 oed, ond o 2011 gwelwyd y cynyddiadau mwyaf ymhlith pobl ifanc 10-14 oed, yn enwedig merched;
  • Roedd derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer y grŵp oedran iau hwn bron â dyblu ymhlith bechgyn a dynion ifanc, a mwy na dyblu ymhlith merched a menywod ifanc;
  • Roedd bechgyn a dderbyniodd gofal brys ar ôl hunan-niweidio, fodd bynnag, yn llawer llai tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty na merched - patrwm a oedd yn "achos pryder" yn ôl yr ymchwilwyr; ac,
  • Roedd mwy na hanner (58%) o'r rhai a oedd yn ceisio gofal brys am hunan-niwed yn fechgyn neu'n ddynion ifanc. 

Roedd yr anghyfartalwch rhwng y rhyweddau fwyaf amlwg ymhlith pobl ifanc 10-15 oed. Derbyniwyd tri chwarter (76%) o ferched yn y grŵp oedran hwn i'r ysbyty, a bron hanner y bechgyn (49%), ond roedd merched a oedd wedi gwenwyno'u hunain yn llawer mwy tebygol o gael eu derbyn (90%) na bechgyn yn yr un grŵp oedran (69%).

Meddai'r Athro John, y mae hefyd yn Gadeirydd Grŵp Cynghori Cenedlaethol i Lywodraeth Cymru ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed: "Mae ein canfyddiadau'n amlygu'r cyfleoedd ar gyfer ymyrraeth gynnar pan fo pobl ifanc yn dod i'r gwasanaethau iechyd oherwydd hunan-niwed, yn enwedig mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac adrannau brys.

"Ceir mentrau i gynyddu ceisio cymorth ymhlith bechgyn a dynion ifanc, ond mae hefyd angen ystyried os, pan maent yn dod, ydym yn eu rheoli'n wahanol i ferched a menywod ifanc." 

Pwysleisiodd yr ymchwilwyr na all yr astudiaeth arsylwadol hon sefydlu achosion, ac mae ond yn adlewyrchu cysylltiadau â'r gwasanaethau gofal iechyd yn hytrach na'r niferoedd gwirioneddol o bobl ifanc sy'n hunan-niweidio yn y gymuned.

Ond awgrymant, o ystyried bod y data ar sail sampl mawr o'r boblogaeth dros gyfnod o flwyddyn, ei fod yn debygol bod y canlyniadau'n gymwys i weddill y Deyrnas Gyfunol.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru arweiniad i'r holl ysgolion yng Nghymru ar leihau hunan-niwed ymhlith pobl ifanc, a ddatblygwyd gan yr Athro John a'i chydweithwyr yn dilyn gweithdy a oedd yn cynnwys trafodaethau ynghylch canfyddiadau'r astudiaeth. 

Rhannu'r stori