Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Aelodau o dîm SUNRISE yn India. Maen nhw'n edrych ymlaen at ehangu eu gwaith, diolch i gyllid newydd

Aelodau o dîm SUNRISE yn India

Mae prosiect a arweinir gan Abertawe, a fydd yn helpu cymunedau mewn gwledydd datblygol i generadu eu pŵer solar eu hunain, wedi ennill dyfarniad o £800,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol.

Caiff yr arian ei ddefnyddio i adeiladu adeiladau prototeip a chefnogi cydweithio rhwng arbenigwyr mewn pum gwlad: India, Kazakhstan, Mecsico, De Affrica a'r Deyrnas Gyfunol.

Mae ynni solar yn hollbwysig i'r symud tuag at bŵer glân, gwyrdd. Mewn un awr yn  unig, mae digon o ynni solar yn cwympo i'r ddaear i ddiwallu anghenion ynni'r byd cyfan am flwyddyn.

Hyd yma, mae'r rhan fwyaf o dechnolegau ynni solar wedi'u cynhyrchu o silicon, y mae angen llawer o arian ac ynni i'w cynhyrchu.  Nawr, fodd bynnag, mae math newydd o gell - cell solar perfosgait - yn profi'n ffordd ymlaen hynod addawol.

Gellir cynhyrchu cell perfosgait yn rhad, gan ddefnyddio deunyddiau sydd ar gael yn helaeth. Mae'n hyblyg, a gellir ei argraffu'n uniongyrchol ar sylfaen. Mae astudiaethau diweddar mewn labordy wedi dangos bod y celloedd perfosgait diweddaraf yn hynod effeithlon.

Y dasg nawr yw dangos y gellir cynhyrchu'r dechnoleg hon a'i defnyddio'n effeithiol mewn adeiladau mewn gwledydd datblygol. Dyma lle bydd prosiect SUNRISE a'r ariannu newydd yn cyfrannu.

Mae tîm SUNRISE eisoes yn cynnwys 12 o brifysgolion partner yn y Deyrnas Gyfunol ac India. Nawr, diolch i'r ariannu hyn, byddant yn gallu ehangu eu gwaith drwy:

  • Adeiladu dau adeilad "arddangos" yn India - megis yr “Adeiladau Gweithredol” ar gampws Prifysgol Abertawe, sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau eu pŵer eu hunain - a'r nod yw profi'r dechnoleg a dangos ei bod yn gweithio.
  • Drwy ehangu'r rhwydwaith i gynnwys arbenigwyr o Kazakhstan, Mecsico a De Affrica, byddant yn treulio blwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe yn dysgu o'i gilydd am y ffordd orau o gael y dechnoleg hon i'r farchnad.

Dywedodd Dr Adrian Walters o brosiect SUNRISE:

"Pwrpas ein hymchwil yw rhoi pŵer glân, fforddiadwy a dibynadwy yn nwylo cymunedau lleol.

“Golyga'r ariannu y gallwn adeiladu arbenigedd yn ogystal ag adeiladau go iawn, a fydd yn dangos p'un ai y gellir cynhyrchu celloedd solar perfosgait ar raddfa a chost fasnachol ddichonol ai peidio.

“Os cyflawnir y nod hwn, bydd yn gyfle byd-eang i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a phroblemau llygredd sy'n gysylltiedig â chynhyrchu pŵer confensiynol."

Daw'r £800,000 i'r prosiect a arweinir gan Abertawe o Ddyfarniadau Trosi Ymchwil Byd-eang Cronfa Ymchwil Heriau Byd-eang (GCRF) Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI).

 

Rhannu'r stori