Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae Siôn a Caitlin wedi agor siop hen ddillad yng nghanol dinas Abertawe

Mae dau fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yn bodloni'r galw cynyddol am ddillad retro a dillad ail-law drwy agor siop hen ddillad yn Abertawe.

Agorodd Retro and Vintage Store – a adnabyddir fel RAVS – yn gynharach eleni yn Arcêd Picton yng nghanol y ddinas, ac mae'n gwerthu dillad ail-law a hen ddillad o ansawdd uchel, yn ogystal â llawer o eitemau drwy'r siop ar-lein, Depop.

Crëwyd RAVS gan y myfyrwyr Rheoli Busnes, Siôn Williams (20 oed) a Caitlin Leatham (21 oed).

Cafwyd y syniad ar ôl arsylwi galw hynod am ddillad retro a hen ddillad ymhlith poblogaeth helaeth y myfyrwyr, gyda Siôn a Caitlin yn uno i ddechrau eu busnes fel partneriaeth.

Ar ôl i'r ddau ennill ariannu cychwyn busnes drwy GoCompare fel rhan o'u modiwl Mentergarwch, prynont brydles y siop a'i hailwampio cyn ei hagor.

"Tyfodd y syniad o'r ffaith fy mod yn angerddol am ddillad retro a hen ddillad ac yn credu'i bod yn bwysig annog cynifer o bobl â phosib i wisgo dillad ail-law," meddai Siôn.

"Mae ffasiwn gyflym yn cynhyrchu mwy na 300,000 tunnell o wastraff y flwyddyn yn y Deyrnas Gyfunol yn unig, sy'n ystadegyn sy'n peri gofid, ac mae'n cynyddu.

"Mae gen i ddiddordeb personol mewn steil ac agweddau cynaliadwy ar ddillad o'r fath, ac rwy'n credu'n gryf y dylid gwneud mwy i leihau'r swm, ac y byddai cyflwyno rhagor o siopau hen ddillad yn chwarae rhan yn hyn o beth."

Ychwanegodd Caitlin, sy'n dod o Newbury yn wreiddiol: "Mae poblogrwydd hen ffasiwn yn cynyddu o hyd, yn enwedig ymhlith myfyrwyr sy'n dilyn ffasiwn ac sy'n amgylcheddol gydwybodol.

"Mae gan y siop sylfaen gwsmeriaid gref ac ni allaf aros i weld y brand yn tyfu."

Gallwch ddysgu rhagor am RAVS drwy'r dudalen Facebook, yn www.facebook.com/RAVSonline, neu'r siop Depop ar-lein (@ravsonline).

 

Rhannu'r stori