Ynglŷn â'n cyrsiau msc cyfrifiadol

Mae'r cyrsiau MSc Cyfrifiadol ar gyfer myfyrwyr sy'n barod i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu dulliau cyfrifiadol a’u rhoi ar waith at ddiben efelychu’n rhithwir amrywiaeth eang o broblemau ffisegol, gan gynnwys mecaneg solet, deinameg hylifau, symudiad tonnau ac aml-ffiseg. Mae'r cwrs yn cynnwys modiwlau dewisol mewn dysgu peirianyddol a dulliau a ysgogir gan ddata.

Mae ymgeiswyr i’r cyrsiau MSc fel arfer yn fyfyrwyr sydd â chefndir mewn disgyblaeth peirianneg (fecanyddol, awyrofod, sifil neu drydanol) neu wyddoniaeth (mathemateg, ffiseg). Rhaglen amlddisgyblaethol yw hon, gyda modiwlau sy'n addas i'r rhai sydd am ddatblygu sgiliau peirianneg gyfrifiadol er mwyn gwella eu gyrfaoedd ym maes peirianneg a gwyddoniaeth.

Mae tri chwrs ar gael:

Peirianneg Gyfrifiadol, MSc:

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy'n barod i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu dulliau cyfrifiadol ar gyfer problemau'r byd go iawn. Mae'r cwrs hwn yn para blwyddyn, a bydd modd i'r myfyrwyr deilwra'r radd drwy ddewis un o'r tri arbenigedd gwahanol sydd ar gael iddynt: Offer meddalwedd, dulliau a ysgogir gan ddata, a thechnegau rhifiadol.

Peirianneg Gyfrifiadol gyda Diwydiant, MSc:

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn unig. Estyniad o'r MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol yw hwn, gydag ail flwyddyn. Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â naill ai lleoliad diwydiannol neu brosiect sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant i weithio ar her ymarferol mewn cydweithrediad ag un o nifer o bartneriaid diwydiannol.

Mecaneg Gyfrifiadol, MSc Rhyngwladol:

Cwrs MSc 2 flynedd yw hwn mewn cydweithrediad ag Universitat Politècnica de Catalunya (UPC) yn Barcelona, Sbaen. Gall myfyrwyr treulio’r flwyddyn gyntaf yn Abertawe a'r ail flwyddyn yn UPC neu i'r gwrthwyneb. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, maen nhw'n ymgymryd â lleoliad diwydiannol. Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle unigryw i astudio mewn dwy brifysgol adnabyddus yn y maes ac mewn dwy wlad wahanol. Felly, mae'n cynnig ystod eang o fodiwlau dewisol i arbenigo mewn nifer o feysydd mecaneg gyfrifiadol, yn Abertawe ac yn Barcelona.

Deall llwybr pob msc cyfrifiadurol gyda'r siart llif weledol hwn