Roedd straeon byrion cwiar o Gymru, lleisiau pob dydd o bandemig Covid-19, a chyfrol fuddugol Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni ymhlith y pynciau a wnaeth ddifyrru cynulleidfaoedd yng Ngŵyl y Gelli wrth iddi gael ei chynnal am y 35ed tro rhwng 26 Mai a 5 Mehefin.
Dychwelodd yr ŵyl fyd-eang fel digwyddiad wyneb yn wyneb yn y gwanwyn am y tro cyntaf ers 2019. Cymerodd fwy na 600 o ysgrifenwyr, llunwyr polisi byd-eang, arloeswyr a phobl flaengar arobryn ran mewn sgyrsiau, perfformiadau a thrafodaethau, a rhoddodd digwyddiadau HAYDAYS y cyfle i ddarllenwyr ifanc gwrdd â'u harwyr a bod yn greadigol.
Roedd sawl academydd o Brifysgol Abertawe'n rhan o raglen yr ŵyl eleni, fel rhan o bartneriaeth barhaus y Brifysgol â'r achlysur diwylliannol a llenyddol uchel ei fri.
Yn ei ddarlith amser cinio, trafododd Dr Michael Ward sut lansiwyd y prosiect DyddiaduronCorona er mwyn cofnodi profiadau pob dydd pobl o bandemig Covid-19, gan dangosodd sut bu profiadau pobl o'r pandemig yn wahanol iawn ym mhob rhan o'n cymdeithas.
Ymunodd yr Athro Kirsti Bohata, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe (CREW), â Dylan Huw, Crystal Jeans a David Llewellyn yn Queer Square Mile – Queer Short Stories from Wales wrth iddynt drafod pwysigrwydd y stori fer wrth ddatblygu a phortreadu diwylliant cwiar er mwyn dathlu cyhoeddiad antholeg arloesol o ysgrifennu cwiar o Gymru.
Bu enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni, Patricia Lockwood, yn sgwrsio ag Alan Bilton, awdur ac aelod o banel beirniadu'r wobr yn 2022. Cymerodd Patricia ran drwy ddolen fyw o'i chartref yn Savannah yn Unol Daleithiau America. Dyfernir y wobr am y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn Saesneg gan awdur 39 oed neu'n iau. Mae'n dathlu ffuglen ryngwladol o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu. Enwyd y wobr ar ôl y llenor a anwyd yn Abertawe, ac mae'n dathlu 39 o flynyddoedd o greadigrwydd a chynhyrchedd gan un o ysgrifenwyr mwyaf dylanwadol a rhyngwladol adnabyddus canol yr 20fed ganrif.
Ddydd Iau 2 Mehefin, ymunodd Hillary Clinton, cyn-ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau ac un o gymrodorion er anrhydedd Prifysgol Abertawe, â'r Farwnes Helena Kennedy, ymgyrchydd taer dros hawliau dynol a dinesig, a gwnaethant drafod apêl gyhoeddus barhaus Clinton, sut gallwn amgyffred heriau'r adeg hanesyddol bresennol gyda'n gilydd, ac, yn gysylltiedig â hynny, obeithion Clinton ar gyfer y dyfodol.
Mewn digwyddiad rhyngweithiol, rhannodd Eric Ngalle Charles, a raddiodd o Abertawe, straeon am leoedd, cof ac iaith wedi'u hysbrydoli gan ei gasgliad cyntaf o gerddi, Homelands, a chamodd Rebecca F John, cyn-fyfyriwr arall ac awdur a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Costa, i'r Starlight Stage i archwilio sut mae ffuglen hanesyddol yn taflu goleuni ar y byd.