Mae Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe wedi cael ei ddewis i fod yn un o bedwar hyb Bod yn Ddynol 2021. Dyma unig ŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU.

Arweinir gŵyl Bod yn Ddynol, sydd yn ei seithfed flwyddyn erbyn hyn, gan Ysgol Astudiaethau Uwch Prifysgol Llundain, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig. Mae'r bartneriaeth hon yn dod â'r tri chorff pwysig sy'n canolbwyntio ar gefnogi a hyrwyddo ymchwil y dyniaethau yn y DU ac yn rhyngwladol at ei gilydd. 
  Being Human Logos

Bydd Bod yn Ddynol yn dychwelyd rhwng 11 a 20 Tachwedd a bydd thema eleni, sef ‘Adnewyddu’. Mae Bod yn Ddynol yn ŵyl am ddim a gynhelir mewn sawl dinas gyda channoedd o ddigwyddiadau am ddim i ddangos sut mae ymchwilwyr y dyniaethau'n gweithio bob dydd ar faterion sy'n llywio'r byd rydym yn byw ynddo.

Meddai Dr Elaine Canning, Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Diwylliannol y Sefydliad Diwylliannol: “Rydym yn falch o gynnal hyb fel rhan o ŵyl Bod yn Ddynol 2020 ac rydym am ddiolch i drefnwyr yr ŵyl am roi'r cyfle cyffrous hwn i ni ystyried sut gallai'r dyniaethau ein helpu i adeiladu bydoedd newydd.

“Oherwydd heriau 2021, mae'n bwysicach byth ein bod yn myfyrio ar y cyfrifoldeb o fod yn ddynol.” 

Bydd Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe'n cyflwyno'r holl ddigwyddiadau ar-lein ac am ddim mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o bartneriaid o ardal Bae Abertawe.

 

Nos Iau 11 Tachwedd

Dydd Gwener 12 Tachwedd

Dydd Sadwrn 13 Tachwedd

Dydd Mawrth 16 Tachwedd

Dydd Mercher 17 Tachwedd

Nos Iau 18 Tachwedd

Dydd Gwener 19 Tachwedd

Drwy gydol yr Ŵyl

Rhaglenni'r gorffennol