Mae cwrs ôl-raddedig a addysgir yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen o'r hyn a wnaethoch chi yn ystod eich astudiaethau israddedig. Er ei fod yn fwy heriol yn academaidd, bydd cwrs ôl-raddedig a addysgir yn rhoi nifer sylweddol o fanteision i chi:
1. Cyflogadwyedd Gwell
Bydd y sgiliau a'r nodweddion rydych chi'n eu datblygu yn ystod eich astudiaethau yn cryfhau'ch CV ac yn eich helpu i ddisgleirio mewn marchnad cyflogaeth graddedigion hynod gystadleuol.
Bydd y cyfuniad o fodiwlau a addysgir, gwaith cwrs a thraethawd hir yn gwella'ch sgiliau trefnu a rheoli amser a'ch gallu i gwrdd â dyddiadau cau.
Gallwch hefyd ddisgwyl i ddatblygu'ch sgiliau trosglwyddadwy ymhellach yn y meysydd canlynol:
- Cyfathrebu a gwaith tîm
- Rheoli prosiect
- Dadansoddi data
- TG
- Meddwl Annibynnol
- Meddwl yn feirniadol
- Datrys problemau
Ar ddiwedd eich astudiaethau, bydd y cymhwyster ychwanegol y byddwch chi wedi'i ennill yn dangos i gyflogwyr bod gennych chi ddyfalbarhad, profiad a'r gallu i ddatblygu lefel uchel o wybodaeth. Amcangyfrifodd Ymddiriedolaeth Sutton y gall unigolyn â chymhwyster lefel meistr ddisgwyl ennill dros £200,000 dros fywyd gweithio 40 mlynedd o hyd na rhywun sy'n meddu ar radd Baglor yn unig.
2. Gwerth deallusol
Bydd cwrs ôl-raddedig a addysgir yn eich galluogi chi i ddilyn maes arbenigol o ddiddordeb a ddatblygwyd gennych yn eich astudiaethau neu'ch gyrfa flaenorol. Mae ein rhaglenni meistr yn eich galluogi chi i arbenigo drwy fodiwlau dewisol a thraethawd hir neu brosiect terfynol sy'n cael ei gwblhau ar bwnc o'ch dewis chi. Bydd gennych chi'r hyblygrwydd i lunio rhaglen o astudiaeth sy'n adlewyrchu'ch diddordebau unigryw chi ac a fydd yn ddiddorol ac yn werthfawr yn ddeallusol.
3. Paratoi ar gyfer ymchwil PhD
Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis ymgymryd â chwrs ôl-raddedig a addysgir i baratoi eu hunain ar gyfer astudiaeth PhD bellach. Mae'r wybodaeth uwch a'r sgiliau arbenigol y byddwch yn eu meithrin yn rhoi sylfaen ardderchog i chi ar gyfer y lefel nesaf o astudiaeth, gan eich galluogi chi i symud ymlaen i ymchwil PhD yn gyflymach. Gall cymhwyster meistr hefyd eich helpu chi i gael cyllid ar gyfer PhD gan Gynghorau Ymchwil.
4. Troi at faes pwnc newydd
Os oes gennych chi radd eisoes ond rydych chi'n ysu am newid cyfeiriad, gall rhaglen ôl-raddedig a addysgir roi'r cyfle i chi symud i faes hollol wahanol. Rydym yn cynnig nifer o gyrsiau trosi sy'n agored i raddedigion o unrhyw faes pwnc ac sy'n gallu eich helpu chi i gymryd y camau cyntaf tuag ar yrfa newydd a gwerthfawr.