Yr Ysgol Reolaeth

Fel myfyriwr yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n bosib y gallwch drosglwyddo o’ch cynllun gradd tair blynedd i gwrs pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn dramor. Fel arfer, bydd angen i chi ddechrau meddwl am hyn yn ystod eich blwyddyn gyntaf ac yna ddod i sgyrsiau Astudio Dramor ar ddechrau eich ail flwyddyn, lle byddwn yn esbonio'r hyn mae angen ei wneud nesaf.

Yn y cyfamser, edrychwch ar y prifysgolion partner y mae'r Ysgol Reolaeth yn gweithio mewn partneriaeth â nhw ar hyn o bryd. Gall y rhestr hon newid yn flynyddol ac efallai byddwch yn gallu cyflwyno cais am le gydag un o'n partneriaid sy'n cynnig lle i fyfyrwyr ym mhob adran hefyd; fodd bynnag, mae nifer y lleoedd sydd ar gael a’r cyrchfannau’n amrywio o un flwyddyn i’r llall felly byddwch yn barod i fod yn hyblyg!

Nid yw cofrestru ar raglen sy'n cynnig semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad dramor am semester/blwyddyn. Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael a chânt eu dyrannu drwy broses ddethol gystadleuol. Os nad ydych yn sicrhau lleoliad am semester/blwyddyn dramor, cewch eich trosglwyddo i fersiwn safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor. Gall yr opsiynau sydd ar gael i chi ddibynnu ar fanylion y cytundeb Brexit a negodir gan lywodraeth y DU.

Students in SoM